Neidio i'r prif gynnwy

Adroddiadau blynyddol Safonau'r Gymraeg

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd y Gymraeg yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddiwallu anghenion a pharchu dewisiadau iaith ein rhanddeiliaid.

Rydym wedi bod yn gweithio i hyrwyddo ac ymgorffori hyn yn ein gwaith ac, yn fwy diweddar, bu'r sefydliad yn ystyried sut y gallwn gyfrannu ymhellach at Fframwaith Strategol 'Mwy na Geiriau...' Llywodraeth Cymru ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg ym meysydd Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol.

Mae'r adroddiad blynyddol hwn yn rhan o waith hunanreoleiddio'r sefydliad ac fe'i crëwyd gan Swyddog Cymorth y Gymraeg ac fe'i hadolygwyd gan aelodau'r Uwch Dîm Rheoli, yn ogystal â'n cydweithwyr yn ein Grŵp Gweithredu'r Gymraeg.

Gan fod y Cydweithrediad yn cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym yn cydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Hysbysiad cydymffurfio a'r weithdrefn gwyno Iechyd Cyhoeddus Cymru