Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd y Rhwydwaith Cardiaidd

Mae Bwrdd y Rhwydwaith Cardiaidd yn deillio o bob sector o’r gymuned gardiaidd ym mhob cwr o Gymru ac mae’n darparu arweinyddiaeth a goruchwyliaeth ar weithrediad y datganiad ansawdd cardiaidd.

Mae’r Bwrdd yn atebol i Lywodraeth Cymru, drwy ei gadeirydd Glyn Jones, y Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Ar hyn o bryd mae cyfarfodydd yn cael eu cadeirio gan Dr Sarah Aitken, Cyfarwyddwr Meddygol Dros Dro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a gynhelir bob mis (cynhelir pedair gwaith y flwyddyn fel arfer).

Y tri phrif lwybr poblogaeth cyflwr cardiaidd a nodwyd gan y gymuned gardiaidd yng Nghymru ar gyfer gwaith ffocws yw:

1. Syndromau Coronaidd Acíwt - Diagnosis a Rheoli

  • STEMI (cnawdnychiant myocardaidd drychiad segment ST)
  • NSTEMI (cnawdnychiant myocardaidd drychiad segment nad yw'n ST)

Mae'r Rhwydwaith wedi mabwysiadu'r defnydd o Lwybr cynhwysfawr ACS NICE

2. Methiant y galon - Diagnosis a Rheoli

Cytunwyd ar Lwybr Methiant Acíwt y Galon.

3. Ffibriliad Atrïaidd - Asesu, Diagnosis a Rheoli

Proses clinigol â chonsensws sydd wedi’i hwyluso, dan arweiniad yr Arweinydd Clinigol Cenedlaethol i ddatblygu llwybr Ffibriliad Atrïaidd safonol i gefnogi a hyrwyddo gweithrediad amserol a chyson canllawiau arferion da ac ansawdd a gwerthusiadau technoleg cysylltiedig, gan gynnwys mabwysiadu technolegau a thriniaethau priodol.

Llwybr Ffibriliad Atrïaidd Cymru 

Mae’r Grŵp Gweithredu ar gyfer Cyflyrau ar y Galon wedi cytuno ar ddull llwybr o adolygu cymheiriaid systematig ar gyfer y gymuned gardiaidd ledled Cymru a fydd yn atgyfnerthu’r ymateb i, ‘Cymru Iachach’.

Bydd yn ymateb i gyd-destun gwerth a darparu adnodd eang a hyblyg sy’n gallu cefnogi’r gwaith o drawsnewid a gwella ansawdd drwy’r cynllun gwaith llwybrau, gan ddarparu tystiolaeth bellach i ysgogi a sbarduno newidiadau mewn ymddygiad.

Yn sgil y pandemig COVID-19, mae’r ffrwd waith hon wedi’i hatal ar hyn o bryd.

Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty yw’r term meddygol sy’n disgrifio’r cyflwr pan fydd unigolyn, sydd yn byw ei fywyd yn ôl yr arfer yn y gymuned, yn cwympo mewn llewyg o un funud i’r llall gan fod ei galon wedi rhoi’r gorau i guro. 

Roedd cyhoeddi'r Cynllun Arestio Cardiaidd y Tu Allan i'r Ysbyty ym mis Mehefin 2017 yn arwydd o uchelgais cenedlaethol Cymru i fod yn arweinydd byd-eang o ran canlyniadau gwell gydag Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty.

Mae’r Cynllun ar gyfer Ataliad y Galon y Tu Allan i’r Ysbyty yn nodi 18 cam gweithredu sy’n rhan o’r ‘Gadwyn Goroesi’ – yr elfennau hanfodol a alla achub bywyd pan fydd rhywun yn cael Ataliad y Tu Allan i’r Ysbyty.