Neidio i'r prif gynnwy

Clefydau Prin

Grŵp Gweithredu Clefydau Prin

Mae clefyd prin yn glefyd sy'n bygwth bywyd neu'n wanychol cronig sy'n effeithio ar bump neu lai o bobl o bob 10,000.

Mae rhwng 5,000 ac 8,000 o glefydau prin ac, er bod pob un yn effeithio ar gymharol ychydig o bobl, gyda’i gilydd maent yn effeithio ar fywydau tua 150,000 o bobl yng Nghymru.

Amcangyfrifir bod tua 350 o glefydau yn cyfrif am 80 y cant o achosion, ond amcangyfrifir hefyd bod mwy na 200 o glefydau newydd yn cael eu nodi bob blwyddyn.

Ein rôl fel Grŵp Gweithredu Clefydau Prin yw goruchwylio’r cynllun cenedlaethol a chefnogi byrddau iechyd i gyflawni eu cynlluniau lleol.

Mae ein haelodau’n cynnwys cynrychiolwyr o’r holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd, sefydliadau’r trydydd sector, gofal sylfaenol, eilaidd ac arbenigol, Llywodraeth Cymru, a rheolwyr y GIG.

Rydym yn adolygu cynnydd yn erbyn y cynllun gweithredu o leiaf unwaith y flwyddyn, gan sicrhau ffocws ar weithio ar draws ffiniau traddodiadol i gyflawni gwelliannau yn y gofal i bobl â chlefydau prin.