Neidio i'r prif gynnwy

Cynllun Gweithredu Clefydau Prin Cymru 2022 - 2026

Diolch am ddangos diddordeb yng Nghynllun Gweithredu Clefydau Prin Cymru 2022-2026.

Efallai y bydd yn rhaid i deuluoedd pobl sydd â chlefydau prin fynd ar daith hir i ddod o hyd i ddiagnosis (a elwir yn aml yn daith ddiagnostig); efallai y bydd eu cyflwr yn cael ei anwybyddu ac, o ganlyniad, efallai na fydd eu gofal yn cael ei gydlynu ac ni fydd unigolion yn gallu cael yr opsiynau triniaeth gorau.

Nod Cynllun Gweithredu Clefydau Prin Cymru yw mynd i’r afael â’r pryderon hyn drwy helpu cleifion i gael diagnosis terfynol yn gyflymach a chodi ymwybyddiaeth gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o glefydau prin a, thrwy hynny, hyrwyddo gofal sy’n cael ei gydlynu’n well a gwella mynediad at ofal, triniaeth a meddyginiaethau arbenigol.