Neidio i'r prif gynnwy

Tim Craidd Grwp Gweithredu Clefydau Prin

Mae’r gwaith o redeg y Grŵp Gweithredu Clefydau Prin yn cael ei reoli gan bedwar unigolyn allweddol. Mae pob un yn ymrwymo rhwng 3.5 a 18 awr yr wythnos i gefnogi’r blaenoriaethau a bennwyd gan Gynllun Gweithredu Clefydau Prin Cymru.

Maent yn cael eu cefnogi gan grŵp o unigolion ar draws yr holl sectorau gofal iechyd a pholisi, gan gynnwys cynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, byrddau iechyd, gwasanaethau arbenigol, elusennau ac unigolion y mae clefydau prin yn effeithio arnynt. 

Rydyn ni’n cwrdd bob chwarter i fonitro cynnydd y gwaith o wella mynediad ac ansawdd Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i’r rhai sy’n mynd drwy ein systemau gofal iechyd fel cleifion, teuluoedd a gofalwyr.