Neidio i'r prif gynnwy

Plant a phobl ifanc

Mae Rhwydwaith Diabetes Plant a Phobl Ifanc Cymru (a Grŵp Aberhonddu) yn dod â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, sefydliadau trydydd sector a theuluoedd plant a phobl ifanc â diabetes ynghyd.

Mae'r Rhwydwaith wedi ymrwymo i wella safonau gofal a chanlyniadau i blant a phobl ifanc â diabetes yng Nghymru fel yr amlinellir yng Nghynllun Cyflawni ar gyfer Diabetes Llywodraeth Cymru.

Mae pob un o’r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn rhan o Rwydwaith Diabetes Plant a Phobl Ifanc Cymru, sy’n bwrw ymlaen â gwaith Grŵp Aberhonddu, gan gynnwys y gofrestr genedlaethol o ddiabetes pediatrig.

Mae pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc â diabetes yn rhan o'r Rhwydwaith. Mae'r Rhwydwaith hefyd yn cefnogi timau pediatrig sy'n cyflwyno data i'r Archwiliad Diabetes Pediatrig Cenedlaethol gorfodol, ac yn cymryd rhan yn y broses Adolygu Cymheiriaid.