Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd yr arennau a neffropathi

Dros amser, gall cael llawer o glwcos yn y gwaed effeithio ar y nerfau bach a’r pibellau gwaed mewn rhannau o’ch corff, gan gynnwys eich arennau.

Mae’n atal yr arennau rhag gweithio cystal ag y dylent a gall arwain at gyflyrau o’r enw neffropathi diabetig, neu glefyd yr arennau.

Mae’r llyfryn hwn yn cynnwys gwybodaeth a fydd yn eich helpu chi i ddeall:

  • Iechyd sylfaenol yr arennau
  • Sut gall diabetes Math 1 effeithio ar yr arennau
  • Camau ymarferol y gallwch eu cymryd i ofalu am eich arennau fel rhan o’ch gofal diabetes

Mae’n werth dysgu am eich corff a’r ffordd orau o reoli pob agwedd ar ddiabetes Math 1, a dilyn y camau cywir er mwyn helpu eich hun i gadw’n iach mor hir â phosibl.