Neidio i'r prif gynnwy

Yfed alcohol

Nod y llyfryn SEREN Connect hwn yw helpu unigolion sy’n edrych ymlaen at eu penblwydd yn 18 oed a gallu prynu eu diod alcohol gyntaf o dan y gyfraith, neu rai yn yr ugeiniau cynnar sy’n ceisio rheoli diabetes Math 1 a dal i fwynhau nosweithiau allan.

Mae yfed alcohol yn cael effaith ar bawb ac mae’n bwysig bod bob person ifanc yn sicrhau byddant yn cadw’n saff wrth wneud hynny. Bydd cymryd amser i ddeall eich corff a lefel glwcos eich gwaed yn helpu i ostwng y risgiau.

Er bod llawer o bobl ifanc yn yfed alcohol, bydd llawer yn dewis peidio â gwneud hynny. Ni ddylech deimlo fod pwysau arnoch i yfed er mwyn bod yn rhan o grŵp.

Os na fyddwch wedi yfed alcohol o’r blaen, bydd yn well dechrau’n araf a dysgu sut bydd yn eich effeithio.