Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Anadlol

Grŵp Gweithredu Iechyd Resbiradol

Sefydlwyd y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Cyflyrau Anadlol ym mis Hydref 2023 i fwrw ymlaen â'r gwaith a ddechreuwyd gan y Grŵp Gweithredu ar Gyflyrau Anadlol.  

Sefydlwyd y Grŵp Gweithredu Iechyd Resbiradol yn 2014 i gefnogi datblygiad a chyfeiriad strategol ar gyfer gwasanaethau resbiradol gofal sylfaenol, cymunedol ac eilaidd yng Nghymru fel y nodir yng Nghynllun Cyflawni Cenedlaethol Llywodraeth Cymru.

Mae ein haelodau’n cynnwys clinigwyr arbenigol o ofal sylfaenol ac eilaidd, arweinwyr gweithredol, iechyd cyhoeddus, gwybodeg, ynghyd â chynrychiolwyr cleifion a’r trydydd sector.

Ein nod yn y pen draw yw lleihau amrywiad amhriodol mewn diagnosis a thriniaeth a rhannu arferion gorau.

Mae salwch resbiradol yn broblem fawr yng Nghymru. Yn 2016/17, dywedodd wyth y cant o boblogaeth Cymru bod ganddynt gyflwr resbiradol, ac achosodd clefydau resbiradol ychydig dros 15 y cant o farwolaethau yn 2016.

Mae gan Gymru'r gyfradd uchaf o achosion o asthma yn Ewrop, gyda 6.9% o oedolion a 9.5% o blant yn cael eu trin am y cyflwr.

Mae'r dudalen hon yn cael ei hadeiladu, edrychwch yn ôl yn fuan am ragor o wybodaeth.