Neidio i'r prif gynnwy

Perfformiad a Sicrwydd

Mae'r swyddogaeth perfformiad a sicrwydd yn ymgorffori gwaith Uned Gyflawni GIG Cymru.

Diben craidd y swyddogaeth hon yw sicrhau bod prosesau a dulliau sicrwydd cadarn ar waith fel bod sefydliadau GIG Cymru yn cael eu dwyn i gyfrif am fodloni’r disgwyliadau a’r canlyniadau a osodir gan y Llywodraeth.  

Bydd yn gweithio ar draws canghennau Llywodraeth Cymru a’r GIG o’r Weithrediaeth GIG Cymru i sicrhau bod GIG Cymru yn darparu gofal iechyd diogel, amserol, effeithiol, effeithlon a theg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. 

Rhennir y swyddogaethau perfformio a chyflawni yn bedwar maes craidd:

  • Rheoli perfformiad a sicrhau ansawdd y system ehangach 
  • Darparu a dadansoddi data i fonitro disgwyliadau cenedlaethol (fel Fframwaith Canlyniadau a Chyflawni’r GIG, Cynlluniau Tymor Canolig Integredig, trywydd perfformiad) a llywio disgwyliadau cyflawni yn y dyfodol a safonau angenrheidiol er mwyn sicrhau dull cyson
  • Uwchgyfeirio ac ymyrryd
  • Pennu cyfarwyddyd polisi ar gyfer gofal wedi’i gynllunio, gofal brys a gofal mewn argyfwng.