Neidio i'r prif gynnwy

Ffrydiau gwaith

Mae ein harweinydd rhaglenni'r gweithlu yn cydlynu'r gwaith o gyflawni'r ffrwd waith hon drwy Grŵp y Gweithlu Delweddu ac Addysg (IWEG).

Mae'r IWEG yn gweithio'n agos gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) er mwyn: 

  • Cyflawni trefniadau gweithlu cynaliadwy ar draws gwasanaethau delweddu yng Nghymru 
  • Creu gweithlu cadarn a gwydn  
  • Helpu staff y ddarparu gwasanaethau'n dda
  • Sicrhau dyfodol cynaliadwy i wasanaethau Delweddu

Mae ein harweinydd rhaglenni ansawdd yn cydlynu'r gwaith o gyflawni'r ffrwd waith hon drwy Fforwm Ansawdd Delweddu Cymru Gyfan (AWIQF).

Mae'r AWIQF yn grŵp sefydledig sy'n goruchwylio materion yn ymwneud â safoni ansawdd, gyda'r nod o wneud y canlynol:

  • Cynnal adolygiad o'r Safon Ansawdd ar gyfer Delweddu a'r adnoddau sydd eu hangen i'w rhoi ar waith ar draws GIG Cymru
  • Annog y broses o rannu adnoddau drwy Radiograffyddion a Radiolegwyr Ansawdd a Gwella er mwyn rhoi'r Safon Ansawdd ar gyfer Delweddu ar waith
  • Yn y pen draw, rhoi'r Safon Ansawdd ar gyfer Delweddu ar waith a sicrhau achrediad llawn ar draws GIG Cymru 

Mae arweinwyr rhaglenni a chlinigol yn y ffrwd waith hon yn gyfrifol am ddatblygu modelau ac atebion cynaliadwy ar gyfer darparu gwasanaethau delweddu yng Nghymru. 

Gall enghreifftiau o'r gwaith hwn gynnwys:

  • Rhoi Rhaglen Goruchwyliaeth MRI Cymru Gyfan y sicrhawyd ei hansawdd ar waith ar gyfer menywod y nodwyd eu bod yn wynebu risg uchel o ddatblygu canser y fron
  • Datblygu proses lywodraethu gadarn i gefnogi rhaglen cyfarpar cyfalaf genedlaethol, cynaliadwy â ffocws clinigol ym mhob rhan o GIG Cymru – bydd hon yn sicrhau y caiff y gofynion delweddu diagnostig clinigol cyfredol ar gyfer poblogaeth Cymru eu bodloni ac y caiff arian cyfalaf ei ddyrannu'n briodol i ddiwallu'r angen diagnostig clinigol
  • Sefydlu Is-grŵp Llwybr Diagnosteg ar gyfer Canser y Prostad i hyrwyddo'r broses o roi Canllawiau NICE, 'Prostate Cancer: Diagnosis and Management’ ar waith mewn ffordd sy'n seiliedig ar safonau ym mhob rhan o GIG Cymru.