Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir ac ymgysylltu

Yn 2012, gofynnodd y Prif Swyddog Meddygol Dr Paul Buss, Cyfarwyddwr Meddygol Cynorthwyol Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar y pryd, i sefydlu grŵp craidd o uwch glinigwyr GIG Cymru i adolygu'r trefniadau presennol ac i ddatblygu dull unedig ledled Cymru ar gyfer Peidiwch â Dechrau Adfywio Cardio-Pwlmonaidd (DNACPR).
 
O ganlyniad i gyhoeddi adroddiad NCEPOD  ‘Time to Intervene?' ar 1 Mehefin 2012 rhoddwyd ysgogiad pellach i’r angen am fframwaith clir.
 
Datblygwyd Polisi Cymru Gyfan, Ffurflen, Canllaw Cyfeirio Cyflym a thaflen Wybodaeth i Gleifion drwy broses gynhwysol, gan gynnwys eang Pwyllgor Moeseg Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, Cyngor Adfywio, Cymdeithas Feddygol Prydain, Coleg Brenhinol y Nyrsys a GMC yng Nghymru a Lloegr, mewn cydweithrediad agos ag arbenigwyr.
 
Canhaliwyd tri gweithdy ledled Cymru, yn cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid a chlinigwyr i gynhyrchu ffurflen DNACPR drafft ac algorithm i gefnogi penderfyniadau.
 
Mae'r Fframwaith Cymru Gyfan ar gyfer DNACPR yn seiliedig ar tystiolaeth ddyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus tryloywder; ymgysylltu ac arweinyddiaeth.  

Mae'r ddau grŵp cyfeirio rhanddeiliaid, gyda chymorth gan gydweithwyr yng Nghanolfan y GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, ymgynghori â sefydliadau perthnasol y trydydd sector.  

Ymgynghorwyd â Chomisiwn Pobl Hŷn a Mencap Cymru ynghylch anghenion pobl ag anableddau dysgu a phobl hŷn.
 
Roedd y polisi a'i ddogfennau ategol yn destun ymgynghoriad eang drwy wefannau cyhoeddus Byrddau Iechyd y GIG, Ymddiriedolaethau a Chanolfan y GIG ar gyfer Cydraddoldeb a Hawliau Dynol a thrwy eu timau ar gyfer profiadau cleifion.

Cynhaliwyd gweithdai yn rhan o gynadleddau Llywodraeth Cymru ‘Ar Fy Marw – Siarad am Farwolaeth’ yn y Gogledd ac yn Ne Cymru i godi ymwybyddiaeth am yr ymgynghoriad a'r polisi drafft.

Cyfrannodd dros 50 o ymatebion addasiadau i'r polisi a’r daflen wybodaeth, fel y gwnaeth yr adolygiad barnwrol diweddar yn Lloegr.
 
Mae Cyfarwyddwyr Meddygol GIG Cymru wedi'u diweddaru’n rheolaidd ar ddatblygiad y Polisi Cymru Gyfan.
 
Mae Grŵp Gweithredu Cenedlaethol Cymru Gyfan ar gyfer DNACPR, gyda chynrychiolwyr o'r holl Fyrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau yn llywio’r gwaith o gyflwyno’r polisi newydd i GIG Cymru, ac yn gweithio'n agos gyda grwpiau gweithredu lleol ac arweinwyr cyfathrebu.
 
Ar lefel leol, mae grwpiau gorchwyl a gorffen gweithredol yn ymdrin â gofynion ar gyfer gweithredu lleol a hyfforddiant, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth ymhlith staff, gweithwyr proffesiynol a sefydliadau sy’n bartneriaid, cleifion a gofalwyr.  

Mae’r holl bolisïau a phrotocolau cystylltiedig wedi’u hodalygu i adlewyrchu polisi DNACPR Cymru Gyfan. Bydd eu gweithredu yn destun archwiliadau lleol i brofi cydymffurfiaeth â’r polisi newydd a’r ffurflen.