Neidio i'r prif gynnwy

Cymwysiadau Profion Pwynt Gofal

Pan gânt eu defnyddio'n briodol, gall Profion Pwynt Gofal wella canlyniadau cleifion drwy:

  • Ddarparu canlyniad cyflym sy'n galluogi ymyriadau therapiwtig ymatebol
  • Gwella cydymffurfiaeth cleifion â thriniaeth
  • Gwella'r ffordd y caiff triniaeth ei hoptimeiddio
  • Lleihau'r angen am ymweliadau ag ysbytai
  • Cynyddu boddhad, cyfleustra a derbynioldeb cleifion
  • Lleihau hyd arhosiad
  • Lleihau cymhlethdodau
  • Lleihau'r gost gyffredinol i GIG Cymru.

Mae canlyniadau profion a gyflwynir mewn modd amserol yn sicrhau bod pobl yn cael eu trin ac yn derbyn gofal yn y ffordd gywir, ar yr adeg gywir, yn y lle iawn a chyda'r staff cywir.