Neidio i'r prif gynnwy

Llyfrgell

Dyma gasgliad o'n hadroddiadau, straeon newyddion da ac astudiaethau achos sy'n gysylltiedig â'r Rhaglen y Rhywdwaith Gwybodaeth Labordai Cymru.

Yn ystod 2020-21 fe wnaeth Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LINC) dynnu cyfluniad y cyflwr cyfredol o’r system rheoli gwybodaeth labordai (LIMS) bresennol, Trak Care Lab (TCL2016), a elwir yn WLIMS1. Yna bu LINC yn arwain y gwaith o adolygu a safoni’r cyfluniad hwn (cyflwr y dyfodol); roedd dros 20,000 o eitemau yn y cyfluniad i gyd, gan gynnwys dros 1,200 o lifoedd gwaith setiau profi.

Mae LINC yn awr yn gweithio’n agos ag Arweinyddion Cyflunio Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), cydweithwyr mewn byrddau iechyd, a grwpiau safoni i weithredu’r cyfluniad safonedig y cytunwyd arno cyn belled â phosibl yn WLIMS1. Mae hyn yn golygu cydamseru’r broses o gyflawni’r cyfluniad safonedig gydag ôl-groniad presennol y gwasanaeth o geisiadau am newid. Un o brif nodau’r gwaith hwn yw sicrhau trawsnewid di-dor i’r gwasanaeth LIMS newydd sy’n cael ei addasu ar hyn o bryd ar gyfer Cymru.

Mae Rhaglen Alluogi LIMS (LEP), sy’n rhan o LINC, yn gyfrifol am fonitro newidiadau i WLIMS1 sy’n cynnwys llifoedd gwaith safonedig ac am sicrhau bod y prosesau rheoli newid ar gyfer WLIMS1 yn gyson. Caiff newidiadau i gyfluniad WLIMS1 eu cylchredeg yn unol ag amserlen gylchredeg a bennwyd ymlaen llaw, gan arwain at fod cylchrediad yn mynd yn fyw bob oddeutu 12 wythnos.

Mae’r graff isod yn dangos yn glir yr effaith gadarnhaol y mae’r gwaith safoni hwn yn ei chael ar newidiadau yng nghyfluniad WLIMS1.

Allan o 52 o newidiadau i’r cyfluniad, roedd 40 (77%) wedi’u safoni ar draws Cymru yng Nghylchrediad 2.1.3 ym mis Hydref 2021, a digwyddodd 8 (20%) o’r newidiadau hynny o ganlyniad i adolygiadau o lifoedd gwaith LINC. 

 Erbyn Cylchrediad 2.1.4 ym mis Mawrth 2022, roedd y niferoedd wedi cynyddu’n aruthrol: allan o 55 o newidiadau i’r cyfluniad roedd 49 (89%) wedi’u safoni ar draws Cymru, a digwyddodd 32 (65%) o’r newidiadau hynny o ganlyniad i adolygiadau o lifoedd gwaith LINC.

Mae Jodi Hughes, Arweinydd Cyflunio Arbenigol Clinigol DHCW ar gyfer Cymru, yn amlinellu rhai o fanteision y gwaith safoni hwn: “Mae’n dileu’r loteri cod post i gleifion, mae’n symleiddio’r cyfluniad felly, os yw pob bwrdd iechyd yn gwneud yr un peth, mae’n lleihau’r risg glinigol fod camgymeriadau’n cael eu gwneud gan beri niwed i fyrddau iechyd eraill, ac mae hefyd yn lleihau faint o brofi sy’n ofynnol mewn labordai oherwydd fe all un bwrdd iechyd brofi ar gyfer Cymru gyfan.”

Mae Cylchrediad Cyflunio WLIMS 2.1.5 i fod i fynd yn fyw ddechrau Gorffennaf 2022, ac mae LINC yn hyderus y bydd y lefelau safoni yn dal i gynyddu.

Mae Rhaglen Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LINC), wedi cyrraedd digwyddiad nodedig arall.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi llofnodi’r gorchymyn gweithredu cyntaf ar gyfer y gwasanaeth Rheoli Gwybodaeth Labordai (LIMS) newydd. Bydd y LIMS yn delio â dros 35 miliwn o brofion sy’n cael eu prosesu gan labordai patholeg, ysbytai, clinigau a phractisau meddygon teulu GIG Cymru ar draws y wlad. 

Caerdydd a’r Fro fydd y bwrdd iechyd cyntaf i fynd yn fyw gyda’r gwasanaeth a’r nod yw y bydd y gwasanaeth yn gweithredu’n sefydlog erbyn Medi 2023.

Y gorchymyn sydd i gyfrif am gyfran helaeth o werth y contract £15.9m i ddiogelu gwasanaethau patholeg ar gyfer y dyfodol ar draws Cymru. Mae hyn yn nodi dechrau’r gwaith ymarferol o ddatblygu, profi a dilysu’r gwasanaeth newydd cyn mynd yn fyw yng Nghaerdydd a’r Fro dros y ddwy flynedd nesaf. 

Meddai Judith Bates, Cyfarwyddwr Rhaglen LINC: “Mae hon yn garreg filltir bwysig gan ei bod yn cynnwys addasu’r Citadel Health LIMS Evolution vLab. Gan ddarparu ar gyfer anghenion GIG Cymru a datblygiad yr integreiddiad llawn o ddechrau’r broses i’w diwedd, yn y platfform technegol cenedlaethol, systemau patholeg lleol a chenedlaethol, ac offer. Bydd hefyd yn darparu ar gyfer cynnal y gwasanaeth LIMS newydd, gwasanaethau cysylltiedig a rheoli newid."

Cafodd yr ateb newydd groeso cynnes gan brif weithredwyr y bwrdd iechyd fel enghraifft o wasanaeth sy’n canolbwyntio ar gleifion sy’n cael ei lywio gan y gymuned glinigol patholeg, a fydd yn gwella ac yn cefnogi darpariaeth gwasanaethau diagnostig i’r dyfodol.

Ymysg y gwelliannau a geir yn sgil y LIMS newydd y mae:

  • Llai o gamgymeriadau gan wella diogelwch clinigol
  • Gwell amseroedd cwblhau gan wella canlyniadau i gleifion
  • Llai o brofion yn cael eu hailadrodd, gan leihau costau a gwella diogelwch cleifion
  • Mae’n haws cymharu canlyniadau cleifion ag amrediadau cyfeirio safonedig
  • Llai o amser prosesu ar gyfer ceisiadau am brofion gan ryddhau staff i fodloni’r galw cynyddol.


Bydd LINC yn dal i ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth â’r gwasanaeth patholeg, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r GIG ehangach, i foderneiddio a thrawsnewid gwasanaethau patholeg yng Nghymru. 

Un o brif amcanion Prosiect Safoni a Dylunio LINC fu casglu a chofnodi’r holl eitemau ffurfweddu a geir yn y WLIMS1 cyfredol (TrakCare Lab 2016), a elwir yn Gyflwr Cyfredol.

Ni cheisiwyd gwneud hyn o’r blaen, felly ni fu’n bosibl i’r gwasanaeth adolygu’r ffurfwedd hwn yn hawdd ers ei weithredu i ddechrau yn WLIMS1 bron 10 mlynedd yn ôl. Cafodd uned drefniadol Cyflwr Cyfredol ei chreu yn y system rheoli ansawdd (eQMS) iPassport i storio’r holl eitemau ffurfweddu. 

Mae Meistr Gatalog y Cyflwr Cyfredol yn rhestru’r holl eitemau ffurfweddu, a chafodd dangosfwrdd ei lunio i dracio cynnydd y gwaith hwn gan ddangos 28,000 o eitemau ffurfweddu sy’n cynnwys deallusrwydd busnes, tablau codau, ystodau cyfeirio nodweddion craidd a setiau profion.

Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud i ddiffinio nodweddion ffurfwedd labordai ar draws Cymru (er mwyn creu un labordy rhithiol), y model diogelwch ar gyfer staff, Llawlyfr Patholeg Cymru a rhifo sbesimenau.

Roedd cofnodi’r cyflwr cyfredol yn waith cymhleth a llafurus iawn ac mae wedi cymryd dwy flynedd i’w gwblhau. Mae llifoedd gwaith y setiau profion yn gymhleth dros ben ac roedd paratoi’r cyflwr cyfredol yn cynnwys nifer o gamau, o gasglu a dadansoddi’r data craidd, a’u trosi yn ddiagram yn MS Visio i gynrychioli’r broses mewn ffordd sy’n gwneud synnwyr i batholegydd ei adolygu.

Mae llifoedd gwaith Trallwysiadau Gwaed, Microbioleg a Sgrinio wedi’u ffurfweddu i raddau helaeth, gan adael 1,256 i’r arweinyddion safoni Gwyddorau Gwaed eu hadolygu. Mae hyn yn gryn dipyn o waith ac roedd llif gwaith y setiau profion ar gyfer cyfrif gwaed llawn yn cynnwys 1,737 o reolau ac amodau.

Cymerodd 147 o dudalennau i’w gofnodi yn MS Visio i’w ddarparu ar ffurf y gallai’r arweinyddion safoni ei hadolygu a phenderfynu pa reolau oedd yn angenrheidiol (megis oedran neu ryw) a pha rai oedd yn ddiangen (megis rheolau lleol ar gyfer ward benodol neu’r clinigydd sy’n gofyn am y prawf).

Cafodd y gwaith hwn ei gyflawni gan Brosiect Safoni a Dylunio LINC, dan arweiniad Kevin Williams, Arbenigwr Arweiniol Pwnc (SME) Patholeg a dan ofal Greg Ead, Uwch Reolwr Prosiect. Mae Gabriel Kumar, SME LIMS yn rheoli tîm bychan, medrus sydd â gwybodaeth dda iawn am ddata a phrosesau’r LIMS gyfredol yn ogystal â gwybodaeth gyffredinol am ddisgyblaethau patholeg; mae’r tîm yn cynnwys Andrea Abbott a Rhys Williams, y ddau yn Ddadansoddwyr Busnes Patholeg a Simon Watton Swyddog Cefnogi’r Rhaglen a gefnogir gan Phil Waters, SME Deallusrwydd Busnes, Juber Islam, Swyddog Gwybodeg Patholeg, yn ogystal â Jodi Hughes, Allan Bateman a Shane Allen o Dîm Ffurfweddu WLIMS1 DHCW. Diolch hefyd i Steve Williams o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a helpodd i orffen y llifoedd gwaith Haematoleg 

Mae hon yn gamp aruthrol a gwelwyd bod 73% o’r Cyflwr Cyfredol eisoes wedi’i safoni. Mae llawer o waith i’w wneud i hyd i gwblhau’r ffurfweddu safonol, neu Gyflwr y Dyfodol, a gaiff ei storio mewn uned drefniadol iPassport ar wahân a’i chyflwyno i’r cyflenwr fel sylfaen ar gyfer ffurfweddu’r Gwasanaeth LIMS newydd.

Mae’r grwpiau a’r arweinyddion safoni yn awr yn adolygu ac yn safoni llifoedd gwaith y setiau profion ar gyfer y Gwasanaeth LIMS newydd. Lle bo hynny’n ymarferol bosibl, caiff y rhain eu gweithredu yn WLIMS1 er mwyn ei gwneud yn haws symud i’r Gwasanaeth LIMS newydd. 

Bydd angen i’r gwasanaeth baratoi gwasanaethau lleol ar gyfer y newidiadau arfaethedig a rhoi sylw i unrhyw broblemau a godir ymlaen llaw, gyda chymorth newid busnes. 

Mae LINC wedi gweithio â chydweithwyr mewn ymddiriedolaethau a byrddau iechyd drwy gyfrwng y Grŵp Datblygu Cenedlaethol DeepSee, i ddatblygu a gweithredu system Deallusrwydd Busnes (BI) ar gyfer y System Rheoli Gwybodaeth Labordai (LIMS) newydd. Mae’r grŵp hwn, dan arweiniad Philip Waters (Arbenigwr Pwnc BI, Rhaglen LINC) wedi datblygu ateb deallusrwydd busnes i ategu’r gwasanaethau patholeg. Mae’r model deallusrwydd busnes arloesol hwn yn darparu gwybodaeth ddadansoddol fel bod y data cywir yn cael ei ddarparu i’r defnyddiwr cywir ar yr adeg gywir.

Cyflwynwyd system BI InterSystems IRIS, a elwir yn lleol yn Deepsee2, yn lle’r System BI LIMS flaenorol o’r enw InterSystems DeepSee a gall staff labordai yn awr chwilio’n gyflym am ddata sy’n berthnasol i’w hanghenion.

Mae Dangosfyrddau DeepSee2 yn gweithredu fel porth gwybodaeth, gan ganiatáu i staff hidlo am ddata sy’n berthnasol iddyn nhw heb iddynt fod angen y sgiliau i wneud ymholiadau data cymhleth.
Bu’r broses o ddatblygu cynnyrch DeepSee2 yn broses hirfaith ac mae’n ffrwyth llafur cydweithrediad rhwng bron 50 o staff Patholeg ar draws yr amrywiol ymddiriedolaethau a byrddau iechyd, cynrychiolwyr o InterSystems a DHCW.

Nod y prosiect oedd datblygu dangosfwrdd BI hawdd ei ddefnyddio, gyda dyluniad hawdd ei ddeall, y gellir ei deilwra i fodloni anghenion y Gwasanaeth heddiw ac i’r dyfodol. Yn ogystal, mae’r platfform yn cynnwys Dadansoddwr Deepsee sy’n caniatáu i ddadansoddwyr a gwyddonwyr data gynhyrchu ymholiadau cymhleth.

Mae’r system yn weithredol a bydd gwelliannau pellach sydd ar y gweill yn darparu dangosfyrddau gwasanaeth ychwanegol gan gynnwys:

  • Dangosfwrdd Ceisiadau Electronig am Brofion - I fonitro faint sy’n gwneud ceisiadau electronig am brofion ar draws Ymddiriedolaethau a Byrddau Iechyd Cymru
  • Dangosfwrdd Covid – Rhestr fyw o ganlyniadau Covid-19 a gynhyrchwyd yn ddiweddar wedi’u hidlo yn ôl ysbyty neu grŵp o leoliadau cleifion sydd wedi’i ddiffinio gan y defnyddiwr.

Drwy gydweithrediad ar draws Byrddau Iechyd gwelwyd datblygiad yn y broses o fonitro statws profion a ddaw i law labordai. Mae’r dangosfyrddau yn dangos y Rhestrau o’r Profion sydd heb eu Cwblhau (OTL) ac fe’u cyflwynwyd mewn Labordai Biocemeg a Hematoleg ym myrddau iechyd Cwm Taf a Hywel Dda, mewn ymdrech i fod yn gymorth gweledol i staff y labordai sy’n prosesu samplau.

Mae’r rhan fwyaf o labordai Cymru yn dibynnu ar adroddiadau a wneir â llaw neu ar system ad-hoc i fonitro profion sydd heb eu cwblhau. Mae’r dangosfyrddau OTL hyn, sy’n seiliedig ar y model gwreiddiol a grëwyd gan Tim Player (Uwch Wyddonydd Biofeddygol, Aneurin Bevan), yn darparu set o wybodaeth sy’n diweddaru’n barhaus, sy’n weladwy ar unwaith ac a gymerir o’r System Rheoli Gwybodaeth Labordai (LIMS) ac fe ellir ei theilwra’n gyfan gwbl i gyd-fynd ag anghenion labordai unigol.

Mae Juber Islam (Swyddog Gwybodeg Patholeg, Rhaglen LINC) wedi gweithio’n agos â Tim Player i ddatblygu a gwella’r dangosfyrddau OTL er mis Hydref 2020 ac mae’n awr yn caniatáu i’r dull arloesol hwn gael ei raddol gyflwyno mewn Ymddiriedolaethau a Byrddau iechyd eraill. Mae’r dangosfwrdd OTL yn blatfform ymholiadau y gellir ei deilwra sy’n sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cael ei dwyn o’r LIMS drwy gyfrwng cysylltiad Cysylltedd Cronfa Ddata Agored (ODBC) i’r arddangosiad, ac mae’n darparu ciplun amser real o’r gwaith sydd heb ei gwblhau sy’n llifo drwy’r labordy. 

Bu Gwyn Bennett (Rheolwr TG Patholeg, Hywel Dda) a Roberto Spagna (Gwyddonydd Biofeddygol, Cwm Taf) yn gweithio’n agos â Juber Islam i ddiffinio’r data sy’n angenrheidiol ar gyfer eu labordai lleol y maent am iddynt gael eu cynrychioli, ac mae hyn wedi golygu dylunio’r tabiau gwybodaeth y bydd ar staff labordai eu hangen a chasglu adborth ar welliannau posibl gan ddefnyddwyr er mwyn datblygu’r gwasanaeth arloesol newydd hwn ymhellach.
 

Astudiaethau achos

Dogfennau eraiill

Addroddiad yr arolwg staff y rhaglen 2021

Canfyddiadau ein arolwg i hasesu agwedd staff at safoni gwasanaethau a monitro unrhyw newid mewn agwedd ers yr arolwg gwreiddiol yn 2019.

Rhestr Termau LINC