Bydd y swyddogaeth Gynllunio yn gweithio ar draws canghennau Llywodraeth Cymru a’r GIG o’r Weithrediaeth i drosi cyfarwyddiadau Gweinidogol a blaenoriaethau ar gyfer cyflawni trwy Fframwaith Cynllunio’r GIG. Bydd y gwaith hwn yn cael ei atgyfnerthu gan rhwydweithiau clinigol, grwpiau gweithredu a rhaglenni.
Bydd rhwydweithiau clinigol cenedlaethol a grwpiau gweithredu yn ddull allweddol o sbarduno gwelliant, newid (gan gynnwys arloesedd a gwerth) a chyflawni o fewn Gweithrediaeth GIG Cymru.
Mae'r rhwydweithiau yn dod â chlinigwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill o amryw ddisgyblaethau proffesiynol at ei gilydd i wella gwasanaethau a chanlyniadau cleifion trwy ddylanwadu ar gomisiynu, cynllunio, darparu a datblygu gwasanaethau.
Byddant yn cefnogi a chyfrannu at waith ar draws holl swyddogaethau Gweithrediaeth GIG Cymru ac yn sicrhau bod ystyriaethau clinigol yn rhan o wella ansawdd, cynllunio a chyflawni.
Rydym yn adolygu'r rhwydweithiau clinigol ar hyn o bryd fel rhan o'r gwaith i weithredu'r Fframwaith Clinigol Cenedlaethol, a byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trefniadau newydd dros y misoedd nesaf.
Bydd rhaglenni cenedlaethol hefyd yn ddull o gefnogi gwelliant, newid (gan gynnwys arloesedd a gwerth) a chyflawni.
Mae rhaglenni yn amlinellu ‘sut beth yw arfer da’ a disgwyliadau ar gyfer cyflawni ar draws iechyd, a phartneriaid mewn gofal cymdeithasol, y sector annibynnol a’r trydydd sector.
Mae’r gwaith hwn yn cynnwys cytuno ar safonau a modelau gofal, cysondeb o ran sut y mesurir perfformiad a gweithgarwch, a llywio metrigau ansawdd a pherfformiad i awgrymu pa arferion gorau y dylid eu mabwysiadu’n genedlaethol.
Gallwch ddysgu am waith y rhwydweithiau, y rhaglenni a'r grwpiau gweithredu presennol isod.