Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Gweithredu Clefyd yr Afu Cenedlaethol

Rhwydwaith Gweithredu Clefyd yr Afu Cenedlaethol

Sefydlwyd y Rhwydwaith Gweithredu Clefyd yr Afu Cenedlaethol ym mis Hydref 2023 i fwrw ymlaen â'r gwaith a ddechreuwyd gan y Grŵp Gweithredu Clefydau'r Afu. 

Rydyn ni'n cefnogi cynnydd o ran bodloni’r blaenoriaethau a nodir yn ' Law yn Llaw at Iechyd – Cynllun Cyflawni ar gyfer Clefyd yr Afu ’.

Mae ein haelodau’n cynnwys clinigwyr o bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth yng Nghymru, cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Afu Prydain a Sefydliad Clefyd yr Afu i Blant ac, yn hollbwysig, cynrychiolydd cleifion.

Mae cyfraddau marwolaethau ar gyfer clefyd yr afu yn y DU wedi cynyddu 400 y cant ers 1970 ac mae clefyd yr afu bellach yn achos marwolaeth cyffredin ar ôl canser, clefyd y galon, strôc a chlefyd anadlol. Mae tua 800 o bobl yn marw o glefyd yr afu yng Nghymru bob blwyddyn.

Nodau manwl y cynllun cyflawni yw gwella gweithgarwch a chanlyniadau ar draws chwe thema allweddol:

  • Atal clefyd yr afu a hybu iechyd yr afu
  • Canfod clefyd yr afu yn amserol
  • Gofal cyflym ac effeithiol
  • Byw gyda chlefyd yr afu
  • Gwella gwybodaeth
  • Targedu ymchwil

Mae gennym hefyd is-grwpiau sy'n bwrw ymlaen â meysydd gwaith penodol. Mae’r is-grwpiau hyn wedi datblygu cysylltiadau â Chymdeithas Gastroenteroleg ac Endosgopi Cymru a Chomisiwn Lancet ar Glefyd yr Afu yn y DU.

 

Clinigol
Dogfennau allweddol
Prosiectau
Hwb cleifion
Cwrdd a'r tim
Newyddion a digwyddiadau
Cynhadleddau a gweithdai
Cylchlythyrau