Neidio i'r prif gynnwy

Llwybr Canser a Amheuir

Mae'r Llwybr Canser a Amheuir (SCP) yn darged gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diagnosio canser a dechrau triniaeth yn gyflymach. Mae hefyd yn nodi lle dylid darparu cymorth a gwybodaeth ar draws  y llwybr.

Croesawodd Rhwydwaith Canser Cymru benderfyniad Llywodraeth Cymru i weithredu Llwybr Canser a Amheuir yng Nghymru o fis Mehefin 2019. 

O ganlyniad, datblygodd pob bwrdd iechyd gynlluniau i sicrhau bod y rhan fwyaf o'u cleifion yn cael profion diagnostig canser mewn modd amserol ac yn dechrau eu triniaeth o fewn 62 diwrnod, o'r pwynt cyntaf lle ceir amheuaeth o ganser.

Yn yr un modd, i'r cleifion hynny nad oes ganddynt ganser, cânt sicrwydd yn brydlon, gan leihau straen a phryder diangen.

Mae'r Llwybr Canser a Amheuir yn benllanw tair blynedd a mwy o waith i newid y ffordd mae byrddau iechyd yn nodi ac yn adrodd am ganserau a gwella canlyniadau a phrofiadau i bobl sydd wedi'u heffeithio gan ganser. Am y tro cyntaf, bydd byrddau iechyd yn cofnodi pa mor hir mae cleifion yn aros o'r pwynt cyntaf lle ceir amheuaeth o ganser, waeth sut maen nhw'n cyrraedd y system gofal iechyd.
 
Mae'r tîm Llwybr Canser a Amheuir yn hwyluso'r gwaith o ddatblygu'r llwybr cenedlaethol ar gyfer canser ar gyfer pob safle canser unigol, fel adnodd i helpu i ddisgrifio siwrnai'r claf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno y bydd byrddau iechyd yn newid yr amseroedd aros am ganser ac yn adrodd yn erbyn mesur sengl y Llwybr Canser a Amheuirl o fis Chwefror 2021. 
 
I ddysgu mwy am hyn, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk