Neidio i'r prif gynnwy

Genomeg

Mae Grŵp Oncoleg Genomeg Cymru Gyfan (AWGOG) yn grŵp amlddisgyblaethol gyda chynrychiolaeth o blith oncolegwyr oedolion a phlant, haematolegwyr, histopatholeg, fferylliaeth, Gwasanaeth Genomeg Feddygol Cymru Gyfan (AWMGS), Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC), Canolfan Therapiwteg a Thocsicoleg Cymru Gyfan (AWTTC) a Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG).

Ein nod yw hwyluso dull cenedlaethol cydgysylltiedig o weithredu gwasanaethau genomeg sy'n benodol i oncoleg. Bydd datblygu llwybrau profion genomig safonol ar gyfer Cymru gyfan yn rhoi’r wybodaeth a’r gallu angenrheidiol i dimau clinigol ledled Cymru i sicrhau bod cleifion priodol â diagnosis o ganser yn gallu cael mynediad at brofion mewn modd amserol, cyson a theg. Yn y pen draw, bydd hyn yn caniatáu i glinigwyr glustnodi unigolion a allai elwa o feddyginiaeth wedi'i phersonoli - therapi gwrth-ganser wedi'i dargedu yn unol â gwybodaeth enetig unigryw y claf.

Os hoffech ragor o wybodaeth am unrhyw agwedd ar ein gwaith, e-bostiwch wcn.WalesCancerNetwork@wales.nhs.uk