Neidio i'r prif gynnwy

Accordian

17/06/21
Amdonon ni

Os ydych chi'n glinigydd sydd eisiau gwybod mwy am ganllawiau, llwybrau ac adnoddau'r rhaglen cliciwch yma i fynd i hyb y clinigwyr . 

Sefydlwyd Fframwaith Canser Gofal Sylfaenol Macmillan yn 2015 i fynd i'r afael â natur gyfnewidiol canser a'i driniaeth. Mae mwy o bobl nag erioed yn goroesi canser a bydd angen cymorth parhaus ar lawer ohonyn nhw yn y maes gofal sylfaen.

Rydym yn cefnogi rôl gynyddol meddygon teulu, nyrsys a gofal cymunedol arall wrth ddarparu gwasanaethau gofal canser i'w cleifion. Rydym yn gwneud hyn drwy’r canlynol: 

  • Cynllunio a chyflwyno digwyddiadau addysgol
  • Hyrwyddo arferion gorau yn lleol ac yn genedlaethol
  • Arwain prosiectau gwella ansawdd
  • Rhoi llais i ofal sylfaenol

Rydym yn rhaglen bartneriaeth strategol rhwng holl fyrddau iechyd Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Rhwydwaith Canser Cymru, Llywodraeth Cymru a Chymorth Canser Macmillan.

Mae ein gwaith yn cysylltu â llawer o rwydweithiau a grwpiau megis Addysg a Gwella Iechyd Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu a Chynghrair Canser Cymru er mwyn gwella gofal canser yng Nghymru.