Neidio i'r prif gynnwy

Diwallu Anghenion Pobl yr effeithir arnynt gan ganser ac Arolwg Gweithwyr Allweddol Canser

Mae’r arolwg hwn yn cael ei gynnal gan Rwydwaith Canser Cymru, sy’n rhan o Gydweithredfa Iechyd GIG Cymru, sefydliad sy’n cael ei gynnal gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym yn ceisio barn pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser a’u gofalwyr, yng Nghymru.

Bydd eich barn yn ein helpu i ddeall y ffyrdd y gallwn wella'r broses o ddiwallu anghenion pobl y mae canser yn effeithio arnynt, a'n helpu i lunio rôl y gweithiwr canser allweddol yng Nghymru ar gyfer y dyfodol. Bydd yr holl ymatebion i’r holiadur yn cael eu cadw’n gwbl gyfrinachol ac ni fyddwn yn gofyn am unrhyw wybodaeth a allai ddatgelu pwy ydych.

Pan fyddwn yn defnyddio’r geiriau “anghenion a phryderon”, gallai hyn gynnwys: Pryderon corfforol e.e., poen, blinder, problemau gyda'r coluddyn neu'r bledren.

Pryderon emosiynol e.e., ofn canser yn dychwelyd neu effaith canser ar eich perthynas. Pryderon ymarferol e.e., rheoli gwaith tŷ neu yrru. Pryderon ariannol e.e., poeni am dalu biliau. Anghenion ysbrydol e.e., ffydd ac ysbrydolrwydd. Canllaw yn unig yw'r pryderon a restrwyd gennym uchod. Ni fydd popeth a restrir yma yn berthnasol i chi, e.e., efallai eich bod wedi cael pryderon eraill nad ydynt wedi'u rhestru. Pan fyddwn yn defnyddio’r term Gweithiwr Allweddol rydym yn cyfeirio at berson y gallwch eu gysylltu, sy’n cymryd rôl allweddol sydd yn gydlynu eich gofal, gan ddarparu gwybodaeth a chyngor i chi drwy gydol eich profiad o ganser e.e., nyrs, gweithiwr cymorth, dietegydd, neu therapydd lleferydd ac iaith. Mae eich atebion yn ddienw, a byddwn yn defnyddio, rheoli ac yn storio’r holl ddata yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) 2018 a ddefnyddir yn y DU. Nid oes unrhyw ddata personol adnabyddadwy yn cael ei gasglu at ddibenion yr arolwg hwn.

 

Diolch i chi am roi amser i gymryd rhan, rydym yn gwerthfawrogi eich barn a'ch sylwadau. Hysbysiad Preifatrwydd: https://cydweithrediad.gig.cymru/use�of-site/hysbysiad-preifatrwydd/ I gael mynediad i’r arolwg, dilynwch un o’r dolenni canlynol: https://www.smartsurvey.co.uk/s/Diwallu-Anghenion-Pobl-yr�effeithir-arnynt-gan-ganser-a-Gweithiwr-Allweddol-Canser