Neidio i'r prif gynnwy

BOD YN GYNRYCHIOLYDD CLEIFION I RWYDWAITH CANSER CYMRU

Pwy all fod yn Gynrychiolydd Cleifion a pha brofiad sydd ei angen arnaf? 

Nid oes unrhyw fath anghywir neu gywir o berson. Gorau po fwyaf yw amrywiaeth  lleisiau cleifion. Rydym yn gwerthfawrogi barn y gymuned gyfan, o bob ystod oedran a chefndir. Nid oes angen i chi fod wedi cael unrhyw brofiad blaenorol o fod yn Gynrychiolydd Cleifion. Rydym yn croesawu barn pawb, ond rydym yn chwilio am bobl sydd â phrofiad o ganser - boed fel claf, gofalwr neu aelod o'r teulu - i gymryd rhan gyda ni. Gallwch ddefnyddio eich profiad i'n helpu i ddeall pethau o safbwynt y claf/gofalwr. Gofynnwn i chi (neu aelod o'ch teulu) fod wedi cael triniaeth ar gyfer y canser o fewn y tair blynedd diwethaf. 

Bydd y Fforwm yn cyfarfod 4 gwaith y flwyddyn drwy gyfarfodydd ar-lein. 

Ar hyn o bryd rydym wedi llenwi'r holl safleoedd ar y fforwm cleifion.