Neidio i'r prif gynnwy

Gofal sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn (Gofal Sylfaenol)

Mae gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn ystyried anghenion a safbwyntiau pobl ac yn meithrin perthynas ag aelodau o'r teulu. Mae'n cydnabod y dylai gofal fod yn holistaidd ac mae'n ystyried anghenion corfforol, ymarferol, emosiynol, ysbrydol a chymdeithasol.

Mae'n ystyried bod cleifion yn bartneriaid cyfartal wrth gynllunio, datblygu ac asesu gofal er mwyn sicrhau ei fod yn briodol ar gyfer eu hanghenion. Yn ôl canllaw i ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn y Sefydliad Iechyd, dyma elfennau allweddol gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn:

  • Trin pobl ag urddas, tosturi a pharch
  • Personoli gofal, cymorth neu driniaeth
  • Cydgysylltu gofal, cymorth neu driniaeth
  • Cynorthwyo pobl i adnabod a datblygu eu cryfderau a'u galluoedd eu hunain i'w galluogi i fyw bywydau annibynnol, gwerth chweil. 

Mae angen i bobl gymryd rhan ym mhob penderfyniad a chynllun yn ymwneud â'u gofal iechyd eu hunain, ac mae angen rhoi gwybodaeth a chymorth iddynt i'w helpu i wneud y penderfyniadau cywir. 

Dyma rai dulliau gweithredu allweddol y gall timau gofal sylfaenol eu defnyddio i gynorthwyo pobl sy'n byw gyda chanser, gan ddefnyddio dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn a'r hyn sy'n bwysig i'r unigolyn a'i deulu.