Neidio i'r prif gynnwy

Pecyn Cymorth Ansawdd Canser Macmillan ar gyfer Gofal Sylfaenol

Datblygwyd Pecyn Cymorth Ansawdd Canser Macmillan ar gyfer Gofal Sylfaenol (Cymru) i gynorthwyo timau practisau meddygon teulu i adolygu eu systemau a'u prosesau er mwyn gwella gofal ar gyfer eu cleifion canser.

Mae mwy o bobl yn goroesi ac yn byw gyda chanser yn yr hirdymor, ac mae pwysigrwydd cyfraniad gofal sylfaenol at ofal canser yn cynyddu.

Mae'r tîm wedi gweithio mewn partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan a Rhwydwaith Canser Cymru i ddatblygu'r pecyn cymorth gan fanteisio ar  gynnwys  pecynnau cymorth tebyg yn Lloegr a'r Alban. 

Mae'r pecyn cymorth yn cynnwys pum modiwl sy'n cwmpasu'r llwybr clinigol cyfan, o atal a diagnosis i ofal diwedd oes. 

Mae'r modiwlau'n canolbwyntio ar y pum maes allweddol canlynol:

  • Modiwl 1:  Canfod canser yn gynharach
  • Modiwl 2:  Diagnosis cyflym ac atgyfeiriad cynnar
  • Modiwl 3:  Cymorth drwy driniaeth
  • Modiwl 4:  Adolygiadau o ofal canser  a chanlyniadau hirdymor canser a thriniaeth ganser 
  • Modiwl 5:  Adnabod a chefnogi pobl â salwch difrifol datblygedig

Mae'r pecyn cymorth yn cyfuno gwybodaeth addysgol, awgrymiadau arferion gorau, adnoddau a chwestiynau myfyrio er mwyn cynorthwyo staff gofal sylfaenol clinigol ac anghlinigol i wella ansawdd.

Hefyd, mae'n helpu i ddarparu gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Er enghraifft, gall yr adolygiadau holistaidd o ofal canser helpu  i nodi a chefnogi anghenion ehangach pobl sy'n byw gyda chanser a'u teuluoedd. 

Lansiwyd y pecyn cymorth ym mis Mai 2019 ac mae'r cyfle i gyfranogi wedi cau bellach. Mae 76 o bractisau meddygon teulu ledled Cymru yn cymryd rhan a bydd adroddiad gwerthuso ar gael yng Ngwanwyn 2021. 

Bydd y gwerthusiad yn mesur effaith y pecyn cymorth, gan ddadansoddi'r newidiadau sydd wedi'u gwneud gan y practisau i wella gofal canser ar gyfer eu cleifion.

I gael mwy o wybodaeth am y pecyn cymorth e-bostiwch  WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk

Gwerthusiad

 

Crynodeb Gweithredol

 

Cliciwch yma i lawrlwytho PDF rhyngweithiol ar gyfer y timau gofal sylfaenol. Nod y pecyn cymorth hwn yw i annog a chefnogi timau gofal sylfaenol i wella ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu i bobl â chanser.