Neidio i'r prif gynnwy

Mathau o Ganser Niwroendocrin

Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ar fathau o ganser niwroendocrin ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. 
Mae gwybodaeth ar gyfer cleifion ar gael ar ein hwb cleifion.

Grŵp heterogenaidd o diwmorau sy'n tyfu'n araf yn gyffredinol yw tiwmorau niwroendocrin (NETs), sy'n deillio'n bennaf o'r llwybr gastroenteropancreatig (GEP), a mannau eraill llai cyffredin.

Dylai cleifion sydd â NETs yn dilyn diagnosis yn Ne Cymru gael eu trafod yng nghyfarfod NET Tîm Amlddisgyblaethol De Cymru yng Nghaerdydd, ond oherwydd natur gymhleth y canser hwn, mae'r tîm, gan gynnwys nyrsys arbenigol, yn croesawu cyswllt cyn unrhyw drafodaeth i ddarparu arweiniad amserol.

Dylai'r broses o reoli cleifion â NETs gydymffurfio â chanllawiau Cymdeithas NET Ewrop (ENETS).

Wrth i'r gwasanaeth NET ddatblygu, bydd y tîm NET yng Nghaerdydd yn ymdrin ag achosion cymhleth mewn clinig er mwyn darparu cynlluniau triniaeth cynhwysfawr a chymorth i gleifion. Bydd cynllun ar gyfer triniaeth ddilynol yn lleol yn cael ei ddarparu ar gyfer achosion syml.

Gall adolygiad Histolegol fod yn hollbwysig gan y bydd sawl biopsi neu sbesimen llawfeddygol yn adrodd ar ganserau sydd wedi'u gwahaniaethu'n wael ac sydd â 'nodweddion niwroendocrin', neu 'garsinomâu niwroendocrin' sy'n ymddwyn yn ymosodol ac yn cael eu rheoli yn yr un modd ag adenocarsinomâu yn safle'r corff.

Mae'r rhain yn llai cyffredin na NETs wedi'u gwahaniaethu'n dda sy'n tyfu'n araf (gyda Ki-67 isel), a dylent barhau i gael eu rheoli gan y tîm oncoleg ar gyfer y safle anatomegol hwnnw, e.e. yr ysgyfaint, gynaecolegol, neu'r pen a'r gwddf. Mae croeso i chi gysylltu â'r tîm i gael eglurhad.

Dylai cleifion o ogledd Cymru gael eu hatgyfeirio i Ganolfan NET Lerpwl sy'n cael ei chadeirio ar hyn o bryd gan yr Athro Mark Pritchard, Gastroenterolegydd Ymgynghorol, Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Ysbytai Brenhinol Lerpwl a Broadgreen.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am CSG Niwroendocrin, e-bostiwch  WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk

Mae canllawiau'r DU a Rhyngwladol yn cynnig arweiniad arbenigol cynhwysfawr ar gyfer pob NET.

Dilynwch y dolenni isod.

Canllawiau Cymdeithas NET y DU ac Iwerddon (UKINETS)

Canllawiau Cymdeithas NET Ewropeaidd (ENETS)

Cynhelir cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol niwroendocrin De Cymru ar yr ail a phedwerydd dydd Mawrth bob mis am 1pm.

Defnyddiwch https://forms.office.com/e/WPdcUMza4g  i wneud atgyfeiriad i'r Tîm Amlddisgyblaethol. 

 

 

DYNODIAD

ENW

Arweinydd y Tîm Amlddisgyblaethol 

Dr Mohid S Khan

Gastroenterolegydd

Dr Mohid S Khan

Oncolegydd Clinigol (Felindre/ De Ddwyrain)

Dr Carys Morgan

Oncolegydd Clinigol (De Orllewin)

Dr Sarah Gwynne

Endocrinolegydd

Dr Aled Rees

Endocrinolegydd

Dr Peter Taylor

Patholegydd

Dr Adam Christian

Patholegydd

Dr Meleri Morgan

Radiolegydd â Diddordeb mewn Delweddu Meddygaeth Niwclear

Dr John Rees

Radiolegydd â Diddordeb mewn Delweddu Meddygaeth Niwclear

Dr Patrick Fielding

Radiolegydd â Diddordeb mewn GI/HPB

Dr Rwth Ellis-Owen

Radiolegydd â Diddordeb mewn GI/HPB

Dr Dipanjali Mondal

Llawfeddyg Pancreaticobiliary

Yr Athro Bilal Al-Sharieh

Llawfeddyg Pancreaticobiliary

Mr Guy Shingler

Llawfeddyg Hepatobiliary

Mr Nagappan Kumar

Llawfeddyg Hepatobiliary

Ms Trish Duncan

Llawfeddyg Endocrin

Mr David Scott-Coombes

Llawfeddyg Endocrin

Mr Michael Stechman

Nyrs Arbenigol

Cath Powell

Nyrs Arbenigol

Rebecca Hopps