Neidio i'r prif gynnwy

Eich iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod y cyfnod ar ôl geni.

Mae afiechydon y meddwl yn effeithio ar fwy nag un o bob 10 o unigolion yn ystod beichiogrwydd ac yn ystod y cyfnod ar ôl geni. 

Heb eu trin, gall yr afiechydon hyn gael effaith sylweddol arnoch chi a’ch teulu. 

Mae eleni wedi bod yn anodd i bawb ac rydyn ni angen i chi wybod bod ein gwasanaethau’n dal i fod ar agor. 

 Gall y ffordd mae gwasanaethau’n cael eu cynnig amrywio — efallai y cewch chi ymweliad gartref, neu bydd rhywun yn cysylltu â chi dros y ffôn neu drwy  alwad fideo.

Mae angen i chi wybod:

  • Mae’n iawn i chi beidio â theimlo’n iawn
  • Mae’n dal i fod yn iawn dweud nad ydych chi’n iawn
  • Mae’n dal i fod yn iawn gofyn a derbyn cymorth os dydych chi ddim yn teimlo’n iawn 

Cofiwch mae’n hollol iawn i chi barhau i gysylltu â’ch bydwraig, eich ymwelydd iechyd neu eich meddyg teulu am gymorth ychwanegol neu cysylltwch â:

C.A.L.L. Llinell Gymorth lechyd Meddwl ar gyfer Cymru
Rhadffon 0800 132 737 neu anfonwch neges destun 'help' at 81066 (y codir y gyfradd rhwydwaith safonol amdani) - unrhyw amser, ddydd a nos

Magu Plant. Rhowch Amser Iddo
Gwybodaeth ymarferol, arbenigol am ddim

Info Engine a Dewis
Dod o hyd i wasanaethau yn eich cymuned

#YouMatterToUs 
#TogetherWeCan
#WalesPNMHNetwork