Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cymunedol i Oedolion yng Nhgymru - Ein Gweledigaeth ar gyfer y Dyfodol

Cyflwyniad

Mae Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl Llywodraeth Cymru 2019-2022 (1) yn nodi’r camau canlynol:

Gweithio gyda phartneriaid i fynegi sut y carem i wasanaethau edrych, trwy osod set gyffredin o werthoedd, adolygu modelau, dysgu oddi wrth dystiolaeth y gronfa drawsnewid, a pharatoi canllawiau i Gymru.

Diben y canllawiau hyn yw disgrifio sut y carem i wasanaethau cymunedol i oedolion yng Nghymru edrych, gan ddysgu o arfer da a gweithio ar draws pob sector i gyd-gynhyrchu set gyffredin o werthoedd, safonau a chamau gweithredu i wireddu’r weledigaeth hon ledled Cymru.

Mae deng mlynedd wedi mynd heibio ers lansio strategaeth Law yn Llaw at Iechyd Meddwl a chyhoeddi canllawiau interim y gwasanaeth iechyd meddwl cymunedol, yn ogystal â degawd ers cyflwyno Mesur Iechyd Meddwl (Cymru).

Mae’n bryd edrych ymlaen at y deng mlynedd nesaf wrth inni symud i foderneiddio ein gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol.

Mae’r cwestiynau allweddol a ystyriwyd drwy’r adolygiad hwn yn cynnwys:
  1. Beth mae ‘da’ yn ei olygu?
  2. Beth yw’r cynnig craidd ar draws gwasanaethau iechyd meddwl cymunedol (CMHS)?
  3. Sut rydym yn sicrhau bod gan y gweithlu’r arbenigedd, yr arweiniad, y wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol, a bod staff yn cael eu cefnogi’n  briodol i ddarparu gofal a thriniaethau effeithiol yn seiliedig ar ymchwil a thystiolaeth? 
  4. Ym mha feysydd y dylem ganolbwyntio ar ddatblygu gwasanaethau? Sut rydym yn gweithredu cylchoedd o welliant parhaus ar draws gwasanaethau?