Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol

Yn 2019, cyhoeddodd Coleg Brenhinol y Bydwragedd a Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr eu hadroddiad ar yr Adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gofal Mamolaeth yng Nghymru: Gweledigaeth Pum Mlynedd ar gyfer y Dyfodol (2019-2024).

Er mwyn cyflawni'r weledigaeth hon, a mynd i'r afael ag argymhellion yr Adolygiad o wasanaethau Mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, nodwyd pum egwyddor gofal mamolaeth.

Gan fod meysydd tebyg wedi'u nodi yn Safonau Newyddenedigol Cymru Gyfan (3ydd Argraffiad), cytunwyd y byddai pum ffrwd waith yn cael eu sefydlu:

  • Gofal sy'n canolbwyntio ar y teulu
  • Parhad gofalwr
  • Gofal diogel ac effeithiol
  • Timau aml-broffesiynol medrus/ Gwasanaethau o ansawdd cynaliadwy
  • Gofal Amserol

O dan gylch gwaith Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru, penderfynodd y Rhwydwaith, drwy ymgysylltu â rhanddeiliaid, ar y blaenoriaethau i ddatblygu a sefydlu ei fecanwaith adrodd a'i strwythurau ffrwd waith.

Prif Flaenoriaethau

  • Gweithredu gwasanaeth dros dro y tu allan i oriau a datblygu gwasanaeth cludiant 24 awr wedi'i gomisiynu'n llawn.
  • Datblygu Set Ddata Perfformiad Mamolaeth Cymru Gyfan a fydd yn adlewyrchu mesurau ansawdd a diogelwch mewn ffordd gadarn a chymaradwy ac yn cefnogi gwyliadwriaeth gan y boblogaeth.
  • Sefydlu is-grŵp Canllawiau Clinigol Mamolaeth, yn ogystal â datblygu Proses Adolygu Marwolaethau ac Afiachedd.
  • Gweithredu Gofal Integredig i Deuluoedd (FiCare) ledled Cymru.
  • Sefydlu mecanweithiau ar gyfer gwella ymgysylltiad â menywod a'u teuluoedd ac ar gyfer cael adborth i ddarparu a gwella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.

Mae gan Ms Teams gyfoeth o wybodaeth am ein ffrydiau gwaith, gan gefnogi is-grwpiau, adroddiadau a chyhoeddiadau ac os nad oes gennych fynediad at hyn eisoes, mae croeso i chi gysylltu elizabeth.gallagher@wales.nhs.uk neu jacqueline.davies1@wales.nhs.uk