21 Hydref 2024
Mae pwysigrwydd gwrando ar lais rhieni a gofalwyr wedi’i amlygu mewn ymchwil newydd sy’n archwilio'r profiadau o gael mynediad at ofal a chymorth i blant sy'n byw ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru.
Comisiynodd rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru, Dr Dawn Jones, Uwch Ddarlithydd mewn Gofal Cymdeithasol ym Mhrifysgol Wrecsam, i gynnal yr ymchwil.
Bu’r prosiect ymchwil yn gweithio gydag amrywiaeth o deuluoedd a phobl sy’n cefnogi plant sy’n byw ag anableddau dysgu yng Ngogledd Cymru. Cafodd y prosiect ei lywio hefyd gan brofiadau gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio yn y sectorau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Mae'n dilyn Adolygiad Llenyddiaeth a Gwerthusiad o Fodelau a Fframweithiau Gofal Cenedlaethol sy’n darparu Gofal i Blant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu yng Nghymru.
Dywedodd Rebecca Curtis, Uwch Reolwr Gwella ar gyfer rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru:
“Yn ddiweddar, bu symudiad tuag at fodelau gofal integredig sy’n hyrwyddo cysylltiadau agosach rhwng gwasanaethau traws-sector ac mae enghreifftiau ysbrydoledig o hyn yn gweithio’n llwyddiannus. Fodd bynnag, mae llawer o dystiolaeth sy'n dweud wrthym fod bwlch o hyd rhwng y weledigaeth o ofal sy'n llywio polisi a'r realiti a wynebir gan rieni, gofalwyr a phlant.
“Fe wnaethom gynnal adolygiad llenyddiaeth y llynedd ac un o’r canfyddiadau allweddol oedd yr angen i wrando ar brofiadau a barn rhieni fel gofalwyr. Mae ein hymchwil newydd wedi rhoi llais iddynt rannu'r hyn sy'n mynd yn dda a'r hyn nad yw'n mynd yn dda. Mae'n bwysig cael mewnwelediad dilys i'r hyn a all fod yn heriau cymhleth, ac roeddem yn awyddus i roi'r dyfnder a'r manylder y maent yn ei haeddu i'w safbwyntiau.
“Trwy grwpiau ffocws a chyfweliadau lled-strwythuredig, rhoddodd Dr Jones le diogel i gleifion a gofalwyr rannu sut profiad yw defnyddio’r gwasanaethau mewn gwirionedd er mwyn i ni allu deall yn well sut brofiad a theimlad sydd ar ofal ar gyfer eu plentyn.”
Bydd y canfyddiadau’n cael eu rhannu â Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol ledled Cymru, a fforymau amlddisgyblaethol a chymunedau ymarfer eraill. Diben hirdymor y prosiect yw hyrwyddo'r canfyddiadau fel bod dealltwriaeth gliriach o'r hyn sy'n gweithio'n dda a lle gallai fod bylchau mewn gwasanaethau.
Mae rhai o’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
Darllenwch y canfyddiadau yn llawn nawr.
Mae rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru yn gweithio i greu Cymru fwy diogel a thecach i bobl sy'n byw ag anabledd dysgu. Credwn fod pawb yn ein cymunedau yn haeddu gofal effeithiol ac effeithlon sy'n diwallu eu hanghenion unigol. Rydym yn gweithio gyda phobl ledled Cymru i gyflawni prosiectau sy'n gwella iechyd a llesiant pobl ag anabledd dysgu.
Mae Dr Dawn Jones wedi bod yn aelod o dîm Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Wrecsam ers 2007 ac mae'n addysgu ar y rhaglenni Cymdeithaseg a Gwaith Cymdeithasol. Mae hi bellach yn gyd-Arweinydd Rhaglen ar gyfer y radd BA (Anrh) Cymdeithaseg.
Mae Dr Jones yn ymchwilydd cymdeithaseg gweithgar sydd wedi cyhoeddi ar draws maes theori cymdeithasegol, polisi cymdeithasol a chymdeithaseg risg. Mae hi hefyd yn gynghorydd ymchwil i Uned Ddata Llywodraeth Leol Cynulliad Cymru, lle mae'n cynghori ar faterion ymchwil a pholisi.