Mae tîm Anableddau Dysgu Gwelliant Cymru wedi treulio’r 18 mis diwethaf yn ymgynghori â phlant, pobl ifanc a’r oedolion sy’n gofalu amdanynt, ar ddatblygu gweledigaeth genedlaethol a chynllun gweithredu ar gyfer cyflawni’r nodau hyn.
Mae’r tîm wedi cynnal digwyddiadau gwrando, wedi ymweld ag ysgolion ac wedi cynnal gweithdai i ofyn i blant a phobl ifanc beth hoffen nhw ei weld yn cael ei gynnwys yn y weledigaeth, ac o ganlyniad mae’r gwaith wedi’i lunio gan y rhai y mae’n effeithio fwyaf arnynt.
Nawr hoffai'r tîm gael adborth pellach ar ddrafft terfynol y weledigaeth, sydd wedi ymrwymo i wella bywydau plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu, a sicrhau eu bod yn hapus ac yn iach nawr ac yn y dyfodol.
Dywedodd Rebecca Curtis, Uwch Reolwr Gwella: “Dechreuodd ein taith tuag at weledigaeth genedlaethol gyda’r Cynllun Gweithredu Strategol Anabledd Dysgu (2022-2026) sy’n ceisio ‘darparu dull cyson, hygyrch a hawdd ei ddeall, Cymru gyfan at wasanaethau plant ar draws y sector cyhoeddus a gwella pob agwedd ar gwasanaethau pontio'.
“I wneud hyn, fe wnaethom wrando ar bobl ledled Cymru gan gynnwys teuluoedd, gweithwyr proffesiynol, a phobl ifanc am yr heriau a’r dymuniadau ar gyfer dyfodol gwasanaethau. Daeth themâu allweddol i'r amlwg fel teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, eich cynnwys, a’ch bod yn gysylltiedig, gan helpu i lunio’r weledigaeth.
“Credwn y dylai iechyd, addysg a gofal cymdeithasol gydweithio i gefnogi plant a phobl ifanc i gydnabod eu hawliau a’u cynnwys mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
“Hoffem glywed gan bobl ifanc ag anabledd dysgu, rhai sy’n gofalu am blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw.”
Bydd yr arolwg ar agor tan 2 Medi 2024.