8 Tachwedd 2024
Croesawodd Ysgol Maes y Coed Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, i’r ystafell ddosbarth i ddysgu am brosiect newydd arloesol sydd â’r nod o wella iechyd a lles plant ag anabledd dysgu.
Mae'r plant ym Mryncoch, Castell-nedd wedi cymryd rhan mewn her chwe wythnos i archwilio pynciau allweddol, fel iechyd corfforol, iechyd meddwl, gofal personol, hylendid, bwyta'n iach ac ymddygiad cadarnhaol.
Gwahoddwyd rhieni a gofalwyr hefyd i sesiynau rhithwir i helpu i greu system gymorth gyfannol ac annog dysgu gartref.
Dywedodd Sarah Murphy, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant:
“Mae perthnasoedd cryf rhwng addysg a gofal iechyd yn allweddol i ofalu am y plant yn ein cymunedau sydd ag anableddau dysgu, felly rwy’n falch iawn o weld y cynnydd y mae’r prosiect hwn wedi’i wneud. Gwyddom fod plant ag anabledd dysgu yn profi anghydraddoldebau iechyd a gall ymyrraeth gynnar wneud byd o wahaniaeth.
“Rydym eisoes yn gweld manteision dull rhagweithiol, megis nodi problemau iechyd yn gynharach a grymuso unigolion i fonitro eu hiechyd. Gall y rhain arwain at well canlyniadau iechyd gydol oes ac rwy’n gyffrous i weld yr effaith y gall hyn ei chael ar blant a’u teuluoedd ledled y wlad.”
Fel rhan o’r prosiect, mae pecyn adnoddau addysg iechyd newydd wedi’i gydgynhyrchu yn cael ei ddatblygu drwy gydweithio rhwng plant, rhieni, nyrsys ysgol ac athrawon. Bydd y fersiwn derfynol ar gael ar draws iechyd ac addysg yng Nghymru i hyrwyddo dull cyson sy’n seiliedig ar y gynulleidfa o gefnogi dysgwyr ag anableddau dysgu.
Bydd y pecyn adnoddau yn cyd-fynd â'r Gwiriad Iechyd Blynyddol, y Proffil Iechyd Unwaith i Gymru, a'r Cynllun Datblygu Unigol. Bydd yn cael ei integreiddio â’r Cwricwlwm i Gymru ac yn cefnogi’r Weledigaeth Genedlaethol ar gyfer Babanod, Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu, sy’n amlinellu’r angen am fynediad at wybodaeth i gadw’n iach.
Ychwanegodd Helen Glover, Pennaeth Ysgol Maes y Coed:
“Rydym yn falch iawn o'r plant a'r ffordd y maent wedi ymgysylltu â'r maes llafur. Mae hon yn ffordd newydd o weithio ar gyfer ein hysgol, ond mae wedi atgyfnerthu i ni pa mor bwysig yw hi i wasanaethau gael eu llywio gan y rhai sydd â phrofiad bywyd.
“Mae ein dysgwyr sy’n cymryd rhan yn y prosiect o gyfnodau allweddol dau a thri. Gallwn weld eisoes eu bod yn fwy ymwybodol o ymddygiadau iach ac yn fwy parod i wneud penderfyniadau gwybodus am eu lles.
“Yn hollbwysig, gall y gwersi hyn fod o fudd i blant ag anableddau dysgu nid yn unig heddiw, ond yn y dyfodol wrth iddynt drosglwyddo i wasanaethau oedolion. Bydd y pecyn adnoddau yn help mawr i leoedd lle mae iechyd ac addysg yn ategu ei gilydd, fel ein hysgol ni.”
Mae’r prosiect yn gydweithrediad rhwng Ysgol Maes y Coed, Gwelliant Cymru o Weithrediaeth y GIG, a’r Gwasanaeth Nyrsio Ysgol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Darparodd Gwelliant Cymru reolaeth prosiect, cyfeiriad strategol a dyraniad adnoddau.
Dywedodd Rebecca Curtis, Uwch Reolwr Gwella rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru:
“Mae cryfhau’r cydweithio rhwng y sectorau iechyd ac addysg yn hanfodol i gyflawni canlyniadau lles gwell, ymdrechion mwy integredig a llwybrau gofal symlach.
“Rydym wedi casglu data ar y dechrau ac ar y diwedd. Mae hyn wedi ein galluogi i gasglu agweddau a phrofiadau plant o wasanaethau iechyd, a fydd yn llywio gwelliannau yn y dyfodol ar draws y system ar gyfer y rhai ag anableddau dysgu.”
Casglwyd mewnwelediadau gwerthfawr gan gyfranogwyr drwy gydol y prosiect, gan gynnwys:
Bydd y pecyn adnoddau addysg iechyd terfynol ar gael i randdeiliaid iechyd ac addysg yng Nghymru yn Mawrth 2025.
Mae amrywiaeth o adnoddau ar gyfer plant, rhieni, gofalwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ar gael gan Gwelliant Cymru, gan gynnwys Proffil Iechyd Unwaith i Gymru.
Ewch I www.improvementcymru.net/learning-disability am ragor o wybodaeth.