Mae Gwelliant Cymru wedi sicrhau tri chais buddugol yng Nghystadleuaeth Poster Cyngres Diogelwch Cleifion Cyfnodolyn y Gwasanaeth Iechyd (HSJ) eleni.
Cyngres Diogelwch Cleifion a Gwobrau HSJ, sy'n dathlu ei 17eg flwyddyn, yw'r digwyddiad penodol i ddiogelwch ac ansawdd gofal iechyd mwyaf yn y DU, gan ddod â mwy na 1,000 o arweinwyr iechyd a gofal cymdeithasol, clinigwyr, rheolwyr a chynrychiolwyr cleifion ynghyd.
Cyn y digwyddiad, gwahoddwyd sefydliadau i gyflwyno posteri ar fentrau gwella ansawdd a diogelwch ar draws deg categori. Bydd y posteri buddugol yn cael eu harddangos yn ardal arddangos y gyngres yn ystod y digwyddiad deuddydd, lle bydd timau yn cyflwyno eu poster.
Cyflwynodd Gwelliant Cymru, sy’n rhan ffurfiol o Weithrediaeth GIG Cymru, geisiadau buddugol mewn tri chategori. Y rhain yw:
Meini prawf y categori: Prosiectau sy'n dangos cyd-gynhyrchu gwirioneddol cleifion sydd â phrofiad bywyd o adolygu prosesau ac ailgynllunio gwasanaethau.
Crynodeb o’r poster: Drwy gyd-gynhyrchu rydym wedi gallu cynllunio rhaglen o gymorth i wella gofal dementia ledled Cymru a thrwy werthuso a chyd-gynhyrchu, byddwn yn parhau i fynd i’r afael â’r hyn sydd bwysicaf i bobl Cymru.
Gweld y poster: Cydgynhyrchu Rhaglen Gofal Dementia i Gymru.
Awduron y posteri: Ian Dovaston, Farukh Navabjan a Michela Morris
Meini prawf y categori: Prosiectau sy'n hybu diogelwch mewn lleoliad sy'n gofalu am gleifion bregus. Gall enghreifftiau gynnwys gofalu am unigolion â dementia, anableddau dysgu, neu ffocws ar wella diogelwch cleifion sy'n agored i niwed yn y cartref, yn y gymuned neu leoliad iechyd meddwl.
Crynodeb o’r poster: Drwy’r dull o gyd-gynhyrchu, cafodd plant, pobl ifanc, a theuluoedd eu grymuso i gymryd perchnogaeth a chyfrannu at drafodaethau ynghylch sut y gallwn gyflawni newid cynaliadwy ac ystyrlon drwy weithredu ar y cyd.
Gweld y poster: Creu Gweledigaeth Genedlaethol ar y cyd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc ag Anabledd Dysgu yng Nghymru
Awduron y posteri: Rebecca Curtis ac Elizabeth Tucker
Meini prawf y categori: Prosiectau sydd wedi rhoi pwyslais mawr ar ddiogelu a chefnogi’r gweithlu i wella llesiant staff. Gall mentrau gynnwys gwaredu gwahaniaethu systemig, cydlynu ymateb ar sail trawma i liniaru niwed seicolegol, staffio mwy diogel neu oresgyn anaf moesol.
Crynodeb o’r poster: Gan ddefnyddio modelau Gofal Diogel, Effeithiol a Dibynadwy (SREC) a Joy in Work (JIW) y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd (IHI) ochr yn ochr ag egwyddorion Arweinyddiaeth Dosturiol, rydym wedi cynnal, ac mewn rhai achosion wedi gwella, llesiant ac ymgysylltiad tîm gwella ansawdd gofal iechyd cenedlaethol yn ystod cyfnod o newid sefydliadol strwythurol sylweddol.
Gweld y poster: Llesiant yn Gyntaf: Adeiladu gweithlu ymgysylltiol a gwydn
Awduron y posteri: Cas Germain a Sarah Patmore
Dywedodd Dominique Bird, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro ar gyfer Ansawdd, Diogelwch a Gwella, Gweithrediaeth GIG Cymru: “Rydym mor falch ein bod wedi ennill tri o’r deg categori poster gan ein bod yn erbyn cystadleuaeth gref iawn. Mae hyn yn dyst i ansawdd ein gwaith a'r effaith y mae ein timau wedi'i chael ar ddiogelwch cleifion a gwelliannau yn system ehangach y GIG.
“Rydym yn edrych ymlaen at siarad drwy ein posteri yn y Gyngres a chysylltu ag unigolion o’r un anian ar sut y gallwn gydweithio a rhannu’r hyn a ddysgwyd gyda Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau eraill ledled y DU.”
Bydd Gwelliant Cymru yn mynd i Gyngres Diogelwch Cleifion HSJ yng Nghanolfan Confensiwn Manceinion Ganolog ddydd Llun 16 – dydd Mawrth 17 Medi 2024.
Yn ogystal â chyflwyno’r posteri buddugol, bydd aelodau o dîm Gwelliant Cymru hefyd yn cyflwyno sesiwn ryngweithiol, ddydd Mawrth 17 Medi am 2.55pm.
Bydd y sesiwn yn canolbwyntio ar sut, trwy’r Rhaglen Gydweithredol Gofal Diogel, y mae Gwelliant Cymru wedi rhoi dull cydweithredol cenedlaethol ar waith i sicrhau gwelliant cynaliadwy ar draws GIG Cymru. Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am y sgwrs ar wefan HSJ.
Os ydych yn ymuno â'r digwyddiad, gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â Gwelliant Cymru ar stondin 32 i glywed rhagor am waith y sefydliad, dysgu am y cymorth y gallai ei gynnig i'ch prosiect, a chymryd rhan mewn cystadleuaeth lle mae gwobr i'w hennill.