Neidio i'r prif gynnwy

Prosiect canser yn ysbrydoli gwelliant parhaus yn y tîm radioleg

Mae adran radioleg brysur ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cymryd ysbrydoliaeth o’r byd gweithgynhyrchu cerbydau i reoli ei llwyth gwaith heriol yn effeithiol.

Mae’r tîm wedi mabwysiadu egwyddorion system gynhyrchu enwog Toyota, yn dilyn hyfforddiant dwys yng Nghanolfan Rheoli Darbodus y gwneuthurwr yng Nglannau Dyfrdwy.

Roedd Claire Kitching, y Prif Radiograffydd MRI, ymhlith cydweithwyr ar draws GIG Cymru a ymwelodd â’r safle i gael hyfforddiant mewn Methodoleg Ddarbodus fel rhan o’r prosiect Llwybrau Lle’r Amheuir Canser.

Wedi’i ariannu gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Canser a’i ddarparu mewn partneriaeth â Gwelliant Cymru a Toyota, nod y prosiect yw cefnogi timau canser amlddisgyblaethol ar draws GIG Cymru i leihau’r amser a gymerir rhwng yr adeg yr amheuir canser a chael diagnosis.

Yn gyfrifol am weithredu pum sganiwr MRI ar draws tri safle ym Mangor, Glan Clwyd a Wrecsam, mae tîm Claire bellach yn defnyddio’r Fethodoleg Ddarbodus a ddysgwyd gan Toyota ac yn gweithio i fabwysiadu diwylliant o welliant parhaus i symleiddio eu dull o reoli eu llwyth achosion sylweddol.

Toyota, ystyr Muda a dull Darbodus

Daeth y rhai a aeth i'r hyfforddiant gyda thîm Toyota ar draws y cysyniad o Muda, sef gair Japaneaidd sy'n golygu gwastraff. Cawsant eu hannog i feddwl am, a chwestiynu pob agwedd ar eu prosesau a'u hamgylchedd gwaith i nodi a lleihau gwastraff a mabwysiadu ffyrdd mwy effeithiol o weithio i wella canlyniadau cleifion.

Cafodd Claire ei hysbrydoli gan yr hyn a'i dysgodd ac aeth ati'n syth i roi Muda a’r Fethodoleg Ddarbodus ar waith yn yr adran radioleg. Meddai Claire: “Roedd yr hyfforddiant yn ardderchog, wedi'i gyflwyno'n dda ac yn drefnus - mae'n debyg mai hwn oedd y cwrs gorau i mi ymuno ag ef erioed. Mae wedi fy annog i edrych ar bopeth o’m cwmpas yn wahanol, cwestiynu prosesau hirsefydlog ac ystyried sut y gallem wneud gwelliannau er budd cleifion a chydweithwyr.

“Mae’r gofynion ar ein gwasanaeth yn sylweddol, gan fod atgyfeiriadau o’r adran gofal dwys, yr adran damweiniau ac achosion brys, atgyfeiriadau gan feddygon teulu, cleifion mewnol, ac arbenigwyr canser. Mae diogelwch yn hollbwysig ac mae gan bob sgan ofyniad gwahanol, a adlewyrchir yn yr amser y mae angen i ni ei neilltuo i bob claf.

“Dechreuais gyda’r amgylchedd gwaith, a chael gwared ar unrhyw annibendod diangen. Roedd hyn yn gathartig ynddo’i hun. Rhoddodd hynny’r lle i mi droi fy sylw at y data. Dechreuais edrych ar ein patrymau gwaith a pha mor aml mae'r atgyfeiriadau'n dod i mewn. Drwy dreulio amser gyda’r data, gallem nodi cyfnodau o alw uchel ar y system a datblygu cynlluniau i reoli’r atgyfeiriadau hynny’n well.

“O fewn y tîm rydym wedi ceisio meithrin diwylliant o welliant parhaus. Rydym yn cael cyfarfodydd tîm rheolaidd ac yn anelu at gyflwyno un gwelliant newydd bob wythnos. Mae'r newidiadau bach yn dechrau cyfrannu at rywbeth mwy, a phan fyddwch chi'n dechrau gweld manteision yr amgylchedd gwaith clir, glân ac effeithlon hwn, mae'n wirioneddol ysgogol.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at adeiladu ar yr hyn rydym wedi’i gyflawni hyd yn hyn drwy’r ffordd newydd hon o weithio er budd cleifion a’r tîm.” 

Dysgwch fwy am y Llwybrau Lle’r Amheuir Canser.