Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth newydd i oedolion â diabetes math 2 yng Nghymru

Bydd gan bobl yng Nghymru sydd â diabetes math 2 ffynhonnell ychwanegol o gefnogaeth o'r wythnos hon gyda lansiad rhaglen ar-lein genedlaethol newydd.

Adnodd addysgol digidol rhyngweithiol yw MyDESMOND sy'n rhoi mynediad hawdd at wybodaeth a chefnogaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth, sy'n galluogi defnyddwyr i olrhain eu lefelau maeth a gweithgarwch, gosod nodau, cysylltu â defnyddwyr eraill a cheisio cyngor gan dîm o arbenigwyr ymroddedig. 

Dywedodd Catherine Washbrook-Davies, Arweinydd Dieteg Cymru ar gyfer Diabetes, Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan: “Yn draddodiadol, yng Nghymru mae addysg diabetes wedi bod ar ffurf grwpiau wyneb yn wyneb trwy atgyfeiriad meddyg teulu.

“Dyma’r tro cyntaf i raglen addysg ddigidol am ddiabetes math 2 fod ar gael i bawb ledled Cymru ac rydym yn gyffrous iawn am y posibiliadau y mae’n eu cynnig i helpu ein cleifion i reoli eu cyflwr. 

“Ni fydd MyDESMOND yn disodli cymorth grŵp, ond gwnaeth yr amhariad enfawr a achosodd Covid-19 i wasanaethau wyneb yn wyneb ei gwneud yn glir iawn pa mor werthfawr yw’r math hwn o adnodd i bobl ei gael yn eu bywydau bob dydd.

“Bydd mynediad at MyDESMOND yn rhoi opsiwn ychwanegol i gefnogi pobl cyn, yn ystod neu ar ôl cael mynediad at unrhyw un o'r gwasanaethau presennol ledled Cymru fel X-PERT rhithiol a gwasanaethau wyneb yn wyneb eraill wrth iddynt ailddechrau.

“Mae'n hawdd cael mynediad ato drwy gyfrifiaduron personol, llechi neu ffonau clyfar felly nid yw pobl sy'n byw gyda diabetes byth fwy na chlic neu ddau i ffwrdd o'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt."

Wedi'i ddatblygu gan Ganolfan Diabetes Caerlŷr, mae MyDESMOND – sy'n sefyll am My Diabetes Education and Self-Management for Ongoing and Newly Diagnosed – yn cynnwys y nodweddion canlynol:

  • Dysgu rhyngweithiol a sesiynau atgyfnerthu i gynyddu gwybodaeth a hyder am ddiabetes math 2 trwy ystod o fideos, cwisiau a deunyddiau addysgol
  • Y gallu i olrhain lefelau gweithgarwch a chysylltu â dyfeisiau Fitbit, Garmin neu Google Fit
  • Ychwanegu gwybodaeth am bwysau, pwysedd gwaed, HbA1c, deiet a cholesterol i olrhain cynnydd a newidiadau
  • Gosod nodau dyddiol a thymor hir
  • Olrhain cynnydd yn erbyn eraill yn y gymuned MyDESMOND ar y byrddau arweinwyr byd-eang
  • Sgwrsio ag aelodau o gymuned MyDESMOND
  • Gwahodd ffrindiau a theulu i ymuno trwy’r nodwedd ‘Bydis’
  • Opsiwn ‘Gofyn i’r Arbenigwr’ sydd wedi’i gysylltu â thîm amlddisgyblaethol Canolfan Diabetes Caerlŷr

 

Yn ôl y ffigurau diweddaraf o 2020, mae bron i 210,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda diabetes, sydd oddeutu wyth y cant o'r boblogaeth. O'r rhain, mae tua 90 y cant yn cael diagnosis o ddiabetes math 21. Dyma'r tro cyntaf i Gymru gofnodi mwy na 200,000 o bobl sydd wedi cael diagnosis o ddiabetes1.

Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae rhoi’r wybodaeth a’r cymorth i bobl i’w helpu i gadw’n iach yn hanfodol bwysig, yn enwedig wrth i’n GIG barhau i ddelio ag effaith hirdymor y pandemig. 

“Rydym eisiau i bobl â chyflyrau hirdymor a chronig fwynhau'r ansawdd bywyd gorau posibl, yn ogystal â sicrhau y gall y GIG wneud y defnydd gorau o'i adnoddau. 

“Mae gan raglenni fel MyDESMOND ran bwysig iawn i’w chwarae gan eu bod yn helpu i bontio'r bwlch rhwng cymorth clinigol ffurfiol a'r anogaeth o ddydd i ddydd sydd ei hangen ar bobl i reoli cyflyrau hirdymor yn effeithiol."

Dywedodd Alison Northern, Rheolwr Gweithredu o Ganolfan Diabetes Caerlŷr, “Rydym yn hynod falch o allu cynnig ein rhaglen MyDESMOND i bobl â diabetes math 2 yng Nghymru.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod gan bobl â diabetes sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni addysg diabetes strwythuredig ganlyniadau iechyd gwell yn gyffredinol, ac mae’r adborth a gawsom gan bobl sy’n defnyddio’r rhaglen ar hyn o bryd wedi bod yn gadarnhaol iawn.

“Rydyn ni'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Grŵp Gweithredu Diabetes i gyflwyno MyDESMOND ledled Cymru.”

Mae diabetes math 2 yn gyflwr cynyddol sy'n datblygu pan fydd y corff yn dal i gynhyrchu rhywfaint o inswlin ond nid yw'n gweithio'n iawn neu mae faint a gynhyrchir yn lleihau. Mae rheoli diabetes math 2 yn amrywio o berson i berson; rhai trwy ddeiet a ffordd o fyw, ac eraill trwy feddyginiaeth gan gynnwys inswlin. 

Mae tystiolaeth yn dangos bod y rhai â diabetes math 2 sy'n cymryd rhan mewn addysg diabetes wedi gwella canlyniadau biofeddygol (megis HbA1c, pwysau, colesterol a phwysedd gwaed) 2-4, gwelliannau mewn canlyniadau seicogymdeithasol (er enghraifft, gofid sy'n gysylltiedig â diabetes, cyfraddau hunaneffeithlonrwydd) 2-6 a chanlyniadau ymddygiadol gwell, sy'n awgrymu bod y rhai sy'n mynychu yn deall mwy am eu diagnosis ac felly'n gwneud mwy i wella eu hiechyd a'u llesiant2-6.

Mae'r adborth gan y 18,000 o bobl sydd eisoes yn defnyddio MyDESMOND wedi bod yn gadarnhaol iawn:

  • Dywedodd 90 y cant fod yr wybodaeth ar y wefan yn ‘ddigon manwl’
  • Cytunodd 83 y cant fod y rhaglen ‘yn hawdd ei defnyddio’.
  • Cytunodd 84 y cant eu bod yn ‘mwynhau defnyddio’r rhaglen hon’.
  • Dywedodd 89 y cant fod yr wybodaeth yn y rhaglen yn werthfawr/gwerthfawr iawn.
  • Roedd 83 y cant o'r farn bod y rhaglen yn ddiddorol
  • Dywedodd 86 y cant fod ganddyn nhw ‘well dealltwriaeth o fy nghyflwr’ o ganlyniad i ddefnyddio MyDESMOND
  • Dywedodd 62 y cant eu bod yn fwy egnïol a newidiodd 77 y cant eu diet o ganlyniad i ddefnyddio MyDESMOND7

 

Os ydych chi'n byw yng Nghymru a bod gennych ddiagnosis o ddiabetes math 2, gallwch ofyn am fynediad trwy www.mydesmond.wales

 

1.           Diabetes UK. https://www.diabetes.org.uk/in_your_area/wales/diabetes-in-wales

2.           Davies, M.J., et al., Effectiveness of the diabetes education and self management for ongoing and newly diagnosed (DESMOND) programme for people with newly diagnosed type 2 diabetes: cluster randomised controlled trial. BMJ, 2008. 336(7642): p. 491-495.

3.           Deakin, T., et al., Structured patient education: the Diabetes X‐PERT Programme makes a difference. Diabetic Medicine, 2006. 23(9): p. 944-954

4.           Trento, M., et al., Rethink Organization to iMprove Education and Outcomes (ROMEO) A multicenter randomized trial of lifestyle intervention by group care to manage type 2 diabetes. Diabetes care, 2010. 33(4): p. 745-747.

5.           Quinn LM, Davies MJ, Northern A et al (2020) Use of MyDesmond digital education programme to support self-management in people with type 2 diabetes during the COVID-19 pandemic. Diabet Med 38: e14469

6.           Hadjiconstantinou M, Barker MM, Brough C et al (2021) Improved diabetes-related distress and self-efficacy outcomes in a self-management digital programme for people with type 2 diabetes, myDESMOND. Diabet Med 38: e14551

7.           https://www.diabetesonthenet.com/journals/issue/641/article-details/role-digital-diabetes-education-mydesmond-during-covid-19-pandemic