Neidio i'r prif gynnwy

Perfformiad a Sicrwydd

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae’r gyfarwyddiaeth Perfformiad a Sicrwydd yn cynorthwyo sefydliadau GIG Cymru i wella a chynnal eu perfformiad yn barhaus yn erbyn gofynion perfformiad, ansawdd a diogelwch cenedlaethol.

Rolau allweddol:

  • Sicrhau ansawdd a chymorth perfformiad, trwy gyngor, arbenigedd, arweiniad a meithrin cydweithio.
  • Monitro a dadansoddi data, mabwysiadu dull gwneud penderfyniadau sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Cefnogaeth uwchgyfeirio ac ymyrryd gan weithio gyda phartneriaid i wella perfformiad a darpariaeth.
  • Dylanwadu ar gyfeiriad polisi gyda Llywodraeth Cymru, gan hyrwyddo cysondeb rhwng polisi a blaenoriaethau GIG Cymru.

 

Mae’r gyfarwyddiaeth Perfformiad a Sicrwydd yn dîm amlddisgyblaethol gyda thair swyddogaeth graidd:

Cyflawni Gweithredol - darparu trosolwg ar berfformiad a sicrwydd, gwella ansawdd a pherfformiad trwy weithio gyda rhanddeiliaid.

Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu - arwain adolygiadau sicrwydd cenedlaethol a lleol i wella ansawdd a lleihau amrywiadau.

Sicrwydd Ansawdd Diogelwch - datblygu, monitro a darparu systemau a phrosesau sicrhau ansawdd cenedlaethol.

 

Mae'r gyfarwyddiaeth Perfformiad a Sicrwydd yn ymgorffori gwaith hen Uned Gyflawni GIG Cymru. Mae gwaith ar y gweill i drosglwyddo cynnwys 'Diogelwch Cleifion Cymru' o wefan Uned Gyflawni GIG Cymru i wefan y Weithrediaeth. Diolch am eich amynedd.