Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn annog pobl yng Nghymru i gysylltu â'u meddygon teulu i gael help a chyngor os oes ganddynt unrhyw symptomau y maent yn poeni amdanynt.
Mae Rhwydwaith Canser Cymru, sy'n rhan o GIG Cymru, wedi ymuno â byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru a Chynghrair Canser Cymru, i annog pobl i gysylltu os oes ganddynt symptomau sy'n peri pryder ac i barhau i fynychu apwyntiadau.
Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Nid yw gwasanaethau hanfodol, fel ymchwilio i ganser a’i drin, wedi dod i ben oherwydd y pandemig. Er bod rhai gwasanaethau wedi cael eu hoedi, mae mor bwysig ag erioed bod pobl â symptomau canser yn dod atom a bod pobl sy'n cael triniaeth ganser yn mynychu eu hapwyntiadau. Byddwn hefyd yn annog pobl i fynychu eu hapwyntiadau sgrinio pan gânt eu gwahodd. Rwy'n gwybod bod hwn yn amser pryderus i bobl, ond gofynnwch am help pan fo angen.”
Dywedodd Dr Mary Craig, Meddyg Teulu Macmillan ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, na ddylai pobl boeni y byddant yn trafferthu eu meddygon teulu ac y byddant yn rhoi baich ychwanegol ar y GIG.
Dywedodd: “Mae llai o bobl yn dod atom gyda symptomau canser yn ystod COVID-19. Rwy’n deall eu pryderon, ond rwyf am dawelu eu meddyliau. Os oes ganddynt unrhyw symptomau y maent yn poeni amdanynt, rydym am glywed ganddynt ac mae’n bwysig iawn eu bod yn cysylltu â ni.
“Ffoniwch eich meddyg teulu. Gallwn ni wneud lawer o bethau dros y ffôn a gall llawer o feddygon teulu ddarparu ymgynghoriadau ac asesiadau dros alwad fideo hefyd. Os oes angen i bobl ddod i mewn i gael profion pellach, gallant fod yn dawel eu meddyliau bod staff yn y practisiau meddygon teulu ac mewn ysbytai yn gweithio'n galed iawn i'w diogelu."
Mae clinigwyr yn pwysleisio mai dim ond canran fach o bobl sydd yn cyflwyno gyda symptomau sydd yn troi allan i gael canser. Ond y cynharaf y bydd pobl yn cael cyngor, y cynharaf y gallant roi eu meddyliau i orffwys neu gael y gefnogaeth a'r driniaeth sydd eu hangen arnynt.
Mae byrddau iechyd ledled Cymru wedi gweithio'n galed i wneud gwasanaethau canser mor ddiogel â phosibl. Mae trefniadau atal a rheoli heintiau newydd wedi'u rhoi ar waith mewn practisiau, ysbytai a lleoliadau sgrinio i leihau'r risg i bobl sy'n mynychu eu hapwyntiadau, megis ardaloedd sydd wedi’u diogelu rhag COVID-19.
Dywedodd yr Athro Tom Crosby OBE, Cyfarwyddwr Clinigol Canser Cenedlaethol Cymru: “Mae gwasanaethau canser wedi addasu eu prosesau diagnostig a thriniaeth, felly er eu bod efallai yn edrych yn wahanol, maent ar waith ac yn gwbl barod i gefnogi pobl ag unrhyw arwyddion neu symptomau canser.
“O ystyried y newidiadau hyn i’r ffordd rydym yn rhedeg gwasanaethau, mae’n bwysicach nag erioed bod unrhyw un sy’n cael ei atgyfeirio am brofion neu driniaeth yn mynychu ei apwyntiad. Bydd hyn yn sicrhau y gallwn wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau, ond yn bwysicaf oll, po gynharaf y gallwn wneud diagnosis, y cyflymaf y bydd pobl yn gallu cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt."
Dywedodd Richard Pugh, Cadeirydd Cynghrair Canser Cymru: “Fel sefydliadau sy’n cefnogi pobl sy’n byw gyda chanser a’u teuluoedd, ein neges, fel bob amser, yw na ddylai unrhyw un oedi cyn ceisio cyngor os oes ganddo unrhyw symptomau y mae’n poeni amdanynt. Mae hyn hyd yn oed yn bwysicach nawr gan ein bod ni'n gwybod bod llawer o bobl wedi gohirio siarad â'u meddygon teulu yn ystod y pandemig."