Mae Rhaglen Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai cenedlaethol Cymru (LINC) wedi cyrraedd carreg filltir holl bwysig arall wrth i’r Gorchymyn Gweithredu cyntaf gael ei lofnodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.
Mae’r gorchymyn gweithredu yn cynrychioli mwyafrif gwerth y contract £15.9m ac yn nodi dechrau’r gwaith ymarferol o ddatblygu, profi a dilysu’r gwasanaeth newydd dros y ddwy flynedd nesaf. Caerdydd a’r Fro fydd y bwrdd iechyd cyntaf i fynd yn fyw gyda’r gwasanaeth newydd a’r nod yw y bydd y gwasanaeth yn gweithredu’n sefydlog erbyn Medi 2023.
Mae Rhaglen Rhwydwaith Gwybodaeth Labordai Cymru (LINC) yn un o raglenni blaenllaw Cydweithrediad Iechyd GIG Cymru.
Mewn partneriaeth â’r gwasanaeth patholeg, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r GIG ehangach, mae LINC wedi arwain y gwaith o lunio’r achos busnes a chaffael gwasanaeth y System Rheoli Gwybodaeth Labordai newydd (LIMS) a bydd yn awr yn arwain y gwaith o’i roi ar waith ledled Cymru.
Yn dilyn ymarferiad caffael drwy ddialog cystadleuol, dyfarnwyd y contract ar gyfer y gwasanaeth LIMS newydd gan Iechyd a Gofal Digidol i Citadel Health ym mis Hydref 2021.
Meddai Adrian Thomas, Uwch Berchennog Cyfrifol LINC: “Bydd y gwasanaeth LIMS newydd nid yn unig yn gwella gwasanaethau i gleifion drwy leihau’r amser a gymerir i brosesu profion a lleihau camgymeriadau, fe allai hefyd arwain at arbedion o £2.3m y flwyddyn a gaiff ei ail-fuddsoddi mewn gofal i gleifion. Mae llofnodi’r gorchymyn gweithredu yn golygu y gall y gwaith nawr fynd rhagddo ar addasu a phrofi’r system gyda’r nod o’i chael yn gwbl weithredol erbyn Rhagfyr 2024.”
Meddai Dr Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Gweithredol Therapïau a Gwyddor Iechyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro:
“Rydym yn falch o fod yn gweithio law yn llaw â Chydweithrediad GIG Cymru ar flaen y broses o gyflenwi gwasanaeth y System Rheoli Gwybodaeth Labordai (LIMS) Cymru gyfan newydd, a fydd yn gwella effeithiolrwydd a chywirdeb gwasanaethau patholeg er budd cleifion ar draws Cymru.”
Gydol y rhaglen, mae wedi bod wrthi’n arwain proses ymgysylltu helaeth â’r gwasanaeth patholeg i sicrhau bod y gwasanaeth LIMS newydd yn cael ei arwain gan angen clinigol er mwyn darparu manteision gwirioneddol i gleifion.
Meddai Dr Andar Gunneberg, Arweinydd Clinigol Biocemeg LINC: “Mae’r gwasanaeth LIMS Cymru gyfan newydd yn ddatblygiad cyffrous a fydd yn arwain at wasanaeth mwy effeithiol a gwell canlyniadau i gleifion. Mae llawer o waith yn cael ei wneud i sicrhau y ceir un cyfluniad safonedig ar gyfer Cymru gyfan. Bydd gwasanaeth safonedig yn gwella diogelwch cleifion ac yn sicrhau mynediad cyfartal at wybodaeth ddiagnostig ledled Cymru. Bydd y LIMS safonedig hefyd yn ein galluogi i ail-gyflunio gwasanaethau, megis gweithio’n rhanbarthol, fel bod gwasanaethau patholeg yn gallu cael eu trefnu yn y ffordd fwyaf effeithlon ledled Cymru.”
Drwy weithio’n effeithiol mewn partneriaeth gallwn sicrhau ateb digidol o ddechrau’r broses i’w diwedd a fydd yn addas at y diben, ac sydd wedi’i ddiogelu at y dyfodol i’r gwasanaeth patholeg, o geisiadau electronig am brofion i adrodd canlyniadau.
Cafodd yr ateb newydd groeso cynnes gan brif weithredwyr y bwrdd iechyd fel enghraifft o wasanaeth sy’n canolbwyntio ar gleifion sy’n cael ei lywio gan y gymuned glinigol patholeg a fydd yn gwella ac yn cefnogi darpariaeth gwasanaethau diagnostig i’r dyfodol.
Ymysg y gwelliannau a geir yn sgil y LIMS newydd y mae:
• Llai o brofion yn cael eu hailadrodd, gan leihau costau a gwella diogelwch cleifion.
• Llai o amser prosesu ar gyfer ceisiadau am brofion gan ryddhau staff i fodloni’r galw cynyddol.
• Llai o gamgymeriadau gan wella diogelwch clinigol.
• Gwell amseroedd cwblhau gan wella canlyniadau i gleifion.
• Mae’n haws cymharu canlyniadau cleifion ag amrediadau cyfeirio safonedig.