Mae arweinwyr ar draws disgyblaethau digidol ac iechyd meddwl wedi cyfarfod fel rhan o ymrwymiad ar y cyd i drawsnewid gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru yn ddigidol. Archwiliodd y Ford Gron y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Digidol botensial technolegau digidol wrth wella profiad a chanlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaethau a staff.
Mae gan dechnolegau digidol botensial helaeth o ran mynd i'r afael â heriau sy'n ymwneud â mynediad at gymorth iechyd meddwl, y gweithlu a defnyddio data. Daeth y digwyddiad, a drefnwyd gan Weithrediaeth GIG Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a’r eMental Health International Collaborative, â rhanddeiliaid ynghyd yn cynrychioli profiad bywyd, iechyd a gofal cymdeithasol, technolegau digidol, Llywodraeth Cymru, diwydiant a'r Trydydd Sector i archwilio cyfleoedd cenedlaethol a rhyngwladol ar gyfer cydweithio. Archwiliodd y digwyddiad rôl deallusrwydd artiffisial (AI), ymrwymiad ar y cyd i dechnolegau digidol, arferion gorau a chyfleoedd posibl o ran technoleg.
O'r chwith i'r dde; Yr Athro Anil Thapliyal (eMHIC), Ciara Rogers (Gweithrediaeth GIG Cymru), Alex Slade (Llywodraeth Cymru), Andrew Greenshaw (Prifysgol Alberta)
Mae Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol newydd 2025-35 yn tynnu sylw at ymrwymiad clir i wasanaethau iechyd meddwl di-dor – sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, yn cael eu harwain gan anghenion ac yn tywys pobl at y cymorth cywir y tro cyntaf, heb oedi. Bydd gallu digidol yn hanfodol i gyflawni'r weledigaeth hon.
Dywedodd Ciara Rogers, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu a Niwroamrywiaeth yng Ngweithrediaeth GIG Cymru: “Mae cyfeiriad polisi newydd ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru yn rhoi llwyfan inni fod yn wirioneddol uchelgeisiol. Bydd ein cynnig digidol yn alluogwr enfawr yn y ffordd rydym yn darparu mynediad cyflym at ofal iechyd meddwl cynnar i bawb. Pan gânt eu gweithredu'n iawn, gall offer digidol wella profiad a chanlyniadau cleifion yn sylweddol, yn ogystal â lleddfu'r pwysau gweinyddol a roddir ar staff, a rhyddhau mwy o amser i ofalu am bobl. Drwy weithio mewn partneriaeth â grŵp amrywiol o randdeiliaid, mae gennym y cyfle i ddod â gwybodaeth a phrofiad ynghyd i sicrhau bod trawsnewid digidol ym maes iechyd yn iawn ar y cam dylunio. Mae Bord Gron y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Digidol wedi herio pob un ohonom i feddwl hyd yn oed yn ehangach am rôl technolegau digidol.”
Ciara Rogers yn siarad yng nghyfarfod Bord Gron y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Digidol
Clywodd y sawl a oedd yn bresennol yn y ford gron gan amrywiaeth o gyflwynwyr yn rhannu mewnwelediadau ac ymarfer wedi'i lywio gan dystiolaeth. Gan fyfyrio ar ei brofiad o bob cwr o'r byd o drawsnewid digidol ym maes iechyd meddwl, agorodd yr Athro Anil Thapliyal, Cyfarwyddwr Gweithredol eMHIC, y ford gron gan dynnu sylw at y gwerth y gall technoleg ei gael i ddefnyddwyr gwasanaethau a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. Trafododd yr Athro Thapliyal sut mae technolegau digidol yn rhan annatod o'r hyn rydyn ni'n ei gynnig i iechyd meddwl, yn aml y datrysiad sydd ar gael bedair awr ar hugain y dydd a saith diwrnod yr wythnos. Dadleuodd hefyd dros lais defnyddwyr gwasanaethau, gan ddatgan os nad yw datrysiadau digidol yn gweithio i'r defnyddiwr, yna nid ydynt yn gweithio o gwbl. Mae angen datblygu datrysiadau digidol mewn partneriaeth, gan ddysgu o brofiadau bywyd, profiad proffesiynol a datblygiadau diweddaraf y diwydiant digidol.
Roedd rhai o'r pynciau eraill a drafodwyd gan gydweithwyr yng nghyfarfod Bord Gron y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Digidol yn cynnwys:
Dywedodd Sam Hall, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol Iechyd Sylfaenol, Cymunedol ac Iechyd Meddwl yn Iechyd a Gofal Digidol Cymru: “Roedd y cyfarfod Bord Gron y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Digidol yn ddigwyddiad gwirioneddol ysbrydoledig ac roedd Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn falch o gynnal y digwyddiad ar y cyd â Gweithrediaeth GIG Cymru. Roedd dod â darparwyr gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau, clinigwyr a gweithwyr proffesiynol yn y maes digidol ynghyd yn golygu ein bod ni’n gallu edrych ar wasanaethau iechyd meddwl o bob cyfeiriad. Mae cyfleoedd enfawr ar gael yn awr, ac yn y dyfodol - mae'r digwyddiad hwn wedi rhoi syniadau newydd inni ac wedi herio ein ffordd o feddwl. Y camau nesaf fydd sicrhau y gall y dechnoleg ddigidol gefnogi’r weledigaeth ar gyfer mynediad at iechyd meddwl ledled Cymru, a darparu gwasanaethau teg sy’n newid bywydau.”
Gyda chefnogaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru, bydd Llywodraeth Cymru yn cyd-gynhyrchu cynllun cyflawni data iechyd meddwl a digidol a fydd yn cyd-fynd â'r Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant a'r Strategaeth Digidol a Data ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Bydd Gweithrediaeth GIG Cymru yn parhau i weithio i gefnogi cydweithwyr ac uwch arweinwyr i feddwl yn wahanol am newid ar raddfa fawr ac mae wrthi'n cwblhau Cynllun Cyflymu Mynediad Agored ar gyfer cymorth iechyd meddwl yng Nghymru, a fydd yn cael ei lywio gan y mewnwelediadau a amlygwyd yng nghyfarfod Bord Gron y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Digidol.