Neidio i'r prif gynnwy

Codi ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta i hyrwyddo ceisio cymorth yn gynnar

Amcangyfrifir bod o leiaf 1.25 miliwn o bobl yn y DU yn byw gydag anhwylder bwyta, sy’n cyfateb i fwy nag 1 o bob 50 o bobl. Fodd bynnag, gallai'r nifer go iawn fod hyd yn oed yn uwch.  

Mewn arolwg gan BEAT - prif elusen y DU sy'n cefnogi pobl ag anhwylderau bwyta - roedd 4 o bob 5 o bobl yn credu y byddai mwy o ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd yn gwneud iddynt deimlo'n fwy cyfforddus yn siarad am eu hanhwylderau bwyta. Roedd yr ymatebwyr yn cefnogi’r syniad y byddai mwy o ymwybyddiaeth yn helpu i herio camsyniadau a all atal pobl rhag ceisio cymorth. 

Mae anhwylderau bwyta fel ARFID (Anhwylder Osgoi/Cyfyngu ar Fwyd), anorecsia, bwlimia, anhwylder gorfwyta mewn pyliau ac OSFED (Anhwylder Bwydo neu Fwyta Penodedig Arall) yn gyflyrau iechyd meddwl cymhleth sy’n aml yn cael eu camddeall, eu cam-labelu neu heb eu diagnosio a all atal pobl rhag gofyn am gymorth. Mae'n bwysig cofio nad yw anhwylderau bwyta yn effeithio ar yr unigolyn â'r cyflwr yn unig. Maent yn aml yn effeithio ar ffrindiau ac aelodau o'r teulu sy’n pryderu hefyd. 

Thema Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta 2025 yw 'gall anhwylderau bwyta effeithio ar unrhyw un'. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o anhwylderau bwyta a sut y gallant effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg yn ystod ei fywyd. 

Fel rhan o’r Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yng Ngweithrediaeth GIG Cymru, mae'r Rhwydwaith Anhwylderau Bwyta wedi ymrwymo i ysgogi gwelliannau yn ansawdd a diogelwch gofal i bobl ag anhwylderau bwyta yng Nghymru. Drwy gydweithio ag ystod amrywiol o randdeiliaid gan gynnwys GIG Cymru, y Trydydd Sector a phobl â phrofiad bywyd, blaenoriaeth y Rhwydwaith yw sicrhau bod pobl ag anhwylderau bwyta tybiedig yng Nghymru yn gallu cael cymorth prydlon. 

Mewn partneriaeth â rhanddeiliaid, mae’r Rhwydwaith Anhwylderau Bwyta yn datblygu llwybr cenedlaethol gwerth uchel a model gwasanaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar. Bydd y llwybr yn cefnogi gwelliannau sy’n golygu y gall unigolion ag anhwylderau bwyta, ni waeth pwy ydyn nhw neu ble maen nhw’n byw, gael cymorth yn gyflym. 

Mae’r Rhwydwaith Anhwylderau Bwyta hefyd yn arwain datblygiad llwybr cenedlaethol ar gyfer ARFID (Anhwylder Osgoi/Cyfyngu ar Fwyd), ac yn dylunio fframwaith cymhwysedd ar gyfer y gwasanaeth anhwylderau bwyta a gweithlu ehangach y GIG. Bydd y fframwaith yn cefnogi cynaliadwyedd y gweithlu yng Nghymru. Bydd yn sicrhau bod cydweithwyr yn parhau i fod â’r wybodaeth a’r sgiliau cywir i ddarparu gofal diogel ac effeithiol o ansawdd uchel. 

Dywedodd Dr Chris O’Connor, Arweinydd Clinigol y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl: “Rydym wir wedi ymrwymo i ysgogi gwelliannau ym maes gofal anhwylderau bwyta yng Nghymru drwy wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, chwalu rhwystrau i driniaeth, a hyrwyddo mynediad prydlon at ofal o ansawdd uchel. Mae’r tîm wedi’i dderbyn yn ddiweddar ar Raglen Enghreifftiol Bevan gyda phrosiect gwych sy’n ceisio gwella ymwybyddiaeth a hyrwyddo ceisio cymorth cynnar, sy’n adleisio pwysigrwydd thema Wythnos Ymwybyddiaeth Anhwylderau Bwyta eleni.” 

Yn dilyn cais llwyddiannus i Raglen Enghreifftiol Bevan Comisiwn Bevan, mae tîm y Rhwydwaith Anhwylderau Bwyta ar hyn o bryd yn bwrw ymlaen â phrosiect sy'n hyrwyddo ceisio cymorth cynnar ar gyfer anhwylderau bwyta. Mae ymchwil yn awgrymu mai tua 20 y cant yn unig o'r bobl sydd ag anhwylder bwyta a fydd yn ceisio cymorth amdano, a pho gynharaf y bydd unigolyn ag anhwylder bwyta yn cael ei drin, y mwyaf tebygol y bydd yn gwella'n llwyr. 

Bydd y prosiect o'r enw 'Ceisio Cymorth Nawr', gyda chymorth a hyfforddiant gan Gomisiwn Bevan, yn galluogi'r tîm i brofi syniadau sy'n annog pobl i chwilio am gymorth yn gynnar yn unol â ffocws mandad Gweithrediaeth GIG Cymru ar ymyrraeth gynnar ym maes anhwylderau bwyta. Nod y tîm yw datblygu a phrofi dulliau gweithredu trwy ymgyrch ymwybyddiaeth sy'n mynd i'r afael â rhwystrau cyffredin i geisio triniaeth, megis stigma, diffyg ymwybyddiaeth, gwadu difrifoldeb yr anhwylder, a mynediad at wasanaethau. 

 

Cymorth 

Mae llinell gymorth BEAT Eating Disorders yn rhoi cymorth i bobl ag anhwylderau bwyta a'u teuluoedd tra byddant yn aros i gael apwyntiad gyda chlinigwr. 

Mae cymorth pellach ar gael gan C.A.L.L. Llinell Gymorth Iechyd Meddwl - Cyngor Cymunedol a Llinell Wrando