Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn cynnig cyfle unigryw i arddangos arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth ynghylch gwelliannau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac a arweinir gan anghenion ym maes iechyd meddwl yng Nghymru.
Fel rhan o Gyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru, bydd arbenigwyr yn ôl galwedigaeth a phrofiad yn ymgynnull ar gyfer cynhadledd ddeuddydd yn Aberystwyth. Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn gwahodd timau ac unigolion, o bob rhan o iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a’r Trydydd Sector, gan gynnwys unigolion neu grwpiau sydd â phrofiad o fyw, i gyflwyno posteri i arddangos arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn y digwyddiad a gynhelir rhwng 3 a 4 Ebrill 2025.
Mae cyflwyno poster yn gyfle i amlygu’n genedlaethol y gwaith gwella y mae eich tîm wedi’i wneud sy’n cael effaith gadarnhaol ar brofiad a chanlyniadau cleifion.
Dywedodd Charlotte Thomas, Arweinydd Rhaglen Genedlaethol, Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl: “Mae cyflwyno poster ar gyfer ein horiel bosteri yng Nghyfnewidfa Arweinyddiaeth GIG Cymru yn gyfle gwych i rannu arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth gydag arbenigwyr yn ôl galwedigaeth a phrofiad o bob rhan o Gymru. Mae hybu dysgu a gwelliant lleol yn rhan sylfaenol o lunio gwelliant cenedlaethol sy’n gwella profiadau a chanlyniadau i’n poblogaeth yng Nghymru. Rydyn ni’n obeithiol y bydd y posteri’n ysbrydoli sgyrsiau sy’n procio’r meddwl am drawsnewid sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac anghenion yn ystod y digwyddiad.”
Gwahoddir posteri ar themâu megis 'trawsnewid y system iechyd meddwl gymunedol', 'ailddiffinio'r gweithlu iechyd meddwl' a 'gweithredu PROMs a PREMS yn systematig'.