Wedi’i gyhoeddi heddiw, cynhyrchwyd Gwerthusiad o Wasanaeth Lwpws GIG Cymru gan CEDAR, grŵp ymchwil annibynnol i’r GIG, a gafodd ei gomisiynu a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Clinigol Strategol Cyhyrysgerbydol a Gweithrediaeth GIG Cymru.
Mae’r adroddiad yn casglu profiadau manwl o wasanaethau i bobl â lwpws. Mae’n tynnu ar safbwyntiau pobl â lwpws (defnyddwyr gwasanaethau) a chlinigwyr (darparwyr gwasanaethau) ar draws GIG Cymru.
Mae lwpws yn gyflwr awto-imiwn cymhleth sy'n aml yn effeithio ar nifer o organau. Mae’n achosi difrod cronnol ac yn gofyn am ofal cydgysylltiedig gan arbenigwyr meddygol amrywiol. Mae natur anrhagweladwy'r clefyd yn cyflwyno heriau sylweddol i gleifion a darparwyr gofal iechyd. Mae llawer o gleifion yn profi oedi hir cyn cael diagnosis.
"Roedd yr arolwg o’r defnyddwyr gwasanaethau yn cynnwys pobl â lwpws o bob bwrdd iechyd ac ardal cyngor yng Nghymru. Datgelodd y canlyniadau amrywiaeth o ran profiadau a boddhad â gofal lwpws. Er bod rhai cleifion a gymerodd ran wedi nodi profiadau cadarnhaol, yn enwedig o ran mynediad at feddyginiaeth a chymorth gan eu hymgynghorydd rhiwmatoleg, mynegodd cyfran sylweddol anfodlonrwydd ag agweddau ar eu gofal.
"Roedd y prif bryderon yn cynnwys anhawster i gael mynediad at ofal brys yn ystod fflamychiadau, llesiant emosiynol a chymorth iechyd meddwl annigonol, a diffyg gofal cydgysylltiedig rhwng darparwyr gofal iechyd. Dywedodd llawer hefyd nad oes gan ddarparwyr gofal iechyd nad ydynt yn arbenigwyr, fel meddygon teulu ac adrannau achosion brys, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o lwpws, a oedd, yn eu barn nhw, yn effeithio'n negyddol ar ansawdd cyffredinol y gofal a dderbyniwyd.
"Mae tîm CEDAR yn hynod ddiolchgar i bawb a gymerodd ran yn y gwerthusiad hwn am rannu eu profiadau a'u safbwyntiau i helpu i lunio dyfodol gofal lwpws yng Nghymru. Mae lleisiau pobl â lwpws a chlinigwyr sy'n eu cefnogi wedi bod yn ganolog i'r gwaith hwn."
"Mae Lwpws yn gyflwr a all effeithio'n ddifrifol ar ansawdd bywyd person ac arwain at gymhlethdodau iechyd hirdymor. Mae’n effeithio ar bob agwedd ar fywyd bob dydd gan gynnwys effeithiau corfforol a seicolegol.
"Mae'r adroddiad hwn yn dangos yn glir angen clir a brys am wasanaethau mwy ymatebol a chydgysylltiedig i bobl â lwpws yng Nghymru. Trwy wella mynediad at ofal arbenigol, monitro pobl â lwpws, darparu ymyriadau amserol yn ystod fflamychiadau, a mynd i'r afael ag anghenion iechyd meddwl a llesiant emosiynol pobl sy'n byw gyda lwpws, gellir gwella profiadau cleifion."
Ychwanegodd Dalila Tremaris, cynrychiolydd cleifion:
"Rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith caled sydd wedi'i wneud i wrando ar leisiau pobl â lwpws yng Nghymru. Mae’r adroddiad hwn wedi amlygu’r heriau presennol sy’n ein hwynebu wrth fyw gyda’r cyflwr cronig cymhleth hwn, ac mae’n dod â gobaith y bydd hyn yn nodi dechrau’r gofal a’r cymorth arbenigol sydd eu hangen arnom.”
"Mae’r adroddiad manwl a gwerthfawr hwn yn adeiladu ar y gwerthusiad blaenorol o ofal ar gyfer pobl â Lwpws yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Wright et al yn 2023. Mae'n darparu dadansoddiad manwl o lefel bresennol y gwasanaeth sydd ar gael i bobl â Lwpws yng Nghymru ac yn rhoi cyfeiriad clir ar gyfer lle mae angen gwelliannau. Fel Rhwydwaith Gweithredu Clinigol rydym yn awyddus i ganolbwyntio ar feysydd allweddol a amlygwyd gan yr adroddiad.
"Yn gyntaf, byrhau'r amser i ddiagnosis, metrig y gellir ei werthuso trwy gymryd rhan yn yr Archwiliad Cenedlaethol o Glefydau Awto-imiwn Llidiol Cynnar. Yn ail, sicrhau bod cleifion â Lwpws yn gallu cael cymorth clinigol ac emosiynol yn ystod fflamychiadau triniaeth, drwy bwyso am gyllid ar gyfer rhwydwaith o Nyrsys Arbenigol Lwpws ledled Cymru a thrwy gynyddu’r broses o gydgynhyrchu gofal â Lupus UK. Bydd ein trydydd maes allweddol ar gyfer gwella yn cynnwys cydlynu mewnbwn aml-arbenigedd i gleifion â lwpws cymhleth trwy weithio i sefydlu Timau a Rhwydweithiau Amlddisgyblaethol yng Nghymru, ond hefyd cysylltu â rhwydweithiau yn Lloegr lle bo angen.
"Mae mwy o waith i’w wneud a bydd yr adroddiad hwn yn adnodd ardderchog i’n harwain."
DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â sarah.cosgrove2@wales.nhs.uk
•