Neidio i'r prif gynnwy

Dewch i'r Gynhadledd Genedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio

Bydd rhanddeiliaid o bob rhan o Gymru yn ymgynnull yng Nghaerdydd ar gyfer Cynhadledd Genedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio ddydd Iau 6 Mawrth 2025.

Bydd y digwyddiad yn tynnu sylw at y dull strategol cenedlaethol o atal hunanladdiad a hunan-niweidio, yn arddangos arferion gorau o bob rhan o Gymru, ac yn creu gofod i atgyfnerthu ymgysylltiad rhwng partneriaid.

Dywedodd Claire Cotter, Arweinydd Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio, Gweithrediaeth GIG Cymru: “Mae’r digwyddiad yn gyfle pwysig i gydweithwyr o wahanol sectorau ddod at ei gilydd i gael sgyrsiau pwysig a dysgu oddi wrth ei gilydd – lleihau stigma, deall cymhlethdod y problemau, gwella ansawdd gwasanaethau a lleihau amrywiadau diangen.”

Bydd amrywiaeth o sefydliadau a sectorau yn cyflwyno sesiynau a gweithdai â ffocws eang, o dystiolaeth a pholisi i sgiliau ymarferol a hyfforddiant.

Bydd Sarah Murphy AS, y Gweinidog dros Iechyd Meddwl a Llesiant, yn ogystal â nifer o arbenigwyr yn ôl profiad a galwedigaeth hefyd yn bresennol.

Bydd y Gynhadledd Genedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio yn cael ei chadeirio gan yr Athro Ann John, Cadeirydd y Grŵp Cynghori Cenedlaethol ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio Llywodraeth Cymru, sydd â chefndir fel epidemiolegydd clinigol ym maes iechyd y cyhoedd ac ymarfer cyffredinol. Mae ymchwil yr Athro John yn canolbwyntio ar atal hunanladdiad a hunan-niweidio ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc, ac mae hi'n arbennig o angerddol am drosi ymchwil yn bolisi ac ymarfer.

Gwahoddir arweinwyr cenedlaethol a lleol o bob rhan o wasanaethau cyhoeddus, yn ogystal â gweithwyr rheng flaen, sy’n cefnogi pobl y mae hunanladdiad a hunan-niweidio yn effeithio arnynt, neu sy’n gofalu ynghylch/am bobl yr effeithir arnynt gan hunanladdiad a hunan-niweidio i fod yn bresennol. Croesewir pobl i fod yn bresennol o bob rhan o Gymru, rhannau eraill o’r DU a thu hwnt.

Cofrestrwch ar gyfer y Gynhadledd Genedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio.

Gellir dod o hyd i wybodaeth ac allbynnau o’r Gynhadledd Genedlaethol ar Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio 2023 ar Hwb Hyfforddiant Atal Hunanladdiad a Hunan-niweidio.