Mae arweinwyr iechyd meddwl sy’n cynrychioli nifer o sectorau wedi cymryd rhan yng Nghyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru. Mae hyn wedi sefydlu mwy o gysylltedd ymhlith partneriaid a llywio dyfodol cymorth iechyd meddwl yng Nghymru.
Fel rhan o Gyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru mae arweinwyr mewn amrywiol rolau, ac ar draws rhwydwaith amrywiol o randdeiliaid wedi cymryd rhan mewn cyfres o gyfleoedd cyfnewid gwybodaeth a ddaeth i ben gyda chynhadledd yn Aberystwyth.
Mae amrywiaeth y rhai a gymerodd ran, o arweinwyr yn cynrychioli profiad bywyd, iechyd, gofal cymdeithasol, y Trydydd Sector a mwy, yn hanfodol i feithrin ymrwymiad ar y cyd a fydd yn ysgogi newid cynaliadwy ac yn helpu i wireddu’r uchelgeisiau sydd i’w hamlinellu yn Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Pob Oed 2024-34, yn arbennig datganiad gweledigaeth pedwar: “Mae pobl yn cael gwasanaethau iechyd meddwl sy’n ddi-dor – yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn cael eu harwain gan angen ac yn cyfeirio at y cymorth cywir y tro cyntaf yn ddi-oed.”
Mae mewnwelediadau a thystiolaeth o wledydd eraill ledled y byd wedi dangos llwyddiant wrth drawsnewid systemau iechyd meddwl o fodelau gofal haenog traddodiadol i ddulliau system sy'n seiliedig ar adferiad. Cynlluniwyd Cyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru o amgylch tair thema graidd sydd wedi bod yn sail i drawsnewid mewn rhannau eraill o’r byd:
Mae’r digwyddiad, y cyntaf o’i fath yng Nghymru, wedi’i ysbrydoli gan lwyddiant y Gyfnewidfa Arweinyddiaeth Fyd-eang. Yn 2024, roedd grŵp bach o gydweithwyr yn cynrychioli GIG Cymru yn ffodus i allu mynd i Gyfnewidfa Arweinyddiaeth Fyd-eang a chael gweld drostynt eu hunain sut y gall digwyddiadau fel hyn gynnig cyfleoedd cyfoethog i gysylltu arweinwyr iechyd meddwl ac arddangos ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth mewn ffordd sy’n creu effaith barhaol.
Rhannu mewnwelediadau a meithrin ymgysylltiad
Cymerodd arbenigwyr trwy brofiad a thrwy alwedigaeth ran mewn pedwar ar bymtheg o gyfleoedd cyfnewid gwybodaeth drwy gydol mis Mawrth 2025 a gynhaliwyd gan nifer o sefydliadau GIG Cymru a phartneriaid allweddol eraill. Roedd y sesiynau cyfnewid gwybodaeth yn brofiadau trochi strwythuredig a gynlluniwyd i rannu arferion gorau a meithrin perthnasoedd cydweithredol. Roedd y sesiynau cyfnewid gwybodaeth yn galluogi cyfle dysgu ar y cyd, lle bu’r trefnwyr a’r cyfranogwyr yn rhannu arloesiadau a heriau.
Cynhadledd genedlaethol wedi'i gwreiddio mewn gwybodaeth, profiad ac arfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Roedd yr wybodaeth a'r mewnwelediadau a rannwyd yn ystod y sesiynau cyfnewid gwybodaeth yn rhan allweddol o lywio cyfres o weithdai yn y gynhadledd a oedd hefyd yn canolbwyntio ar themâu dull system seiliedig ar adferiad. Arweiniodd arbenigwyr pwnc drafodaethau a oedd yn caniatáu i’r rhai a oedd yn bresennol glywed a chyfrannu at fewnwelediadau ac yna cymryd rhan mewn tasgau a oedd yn eu herio i feddwl yn wahanol am sut rydym yn darparu cymorth iechyd meddwl yng Nghymru.
Fel rhan o'r gynhadledd, bu’r cynadleddwyr yn clywed gan, ac yn ymgysylltu â nifer o arweinwyr meddwl sy'n cynrychioli arbenigwyr trwy brofiad a phroffesiwn, thrwy ymgysylltu wyneb yn wyneb ac ymgysylltu byw ar-lein. Agorwyd y gynhadledd gydag araith bwerus gan Horatio Clare, yr awdur a’r darlledwr a oedd yn trafod ei brofiad bywyd a’i angerdd dros newid.
Trafodaethau panel yng nghynhadledd Cyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru
Cymerodd cynrychiolwyr o Fwrdd Ieuenctid Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ran mewn trafodaeth banel lle buont hwythau’n rhannu eu profiadau bywyd o wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, a’u gobeithion am newid fel eiriolwyr dros wella a chynnwys pobl ifanc. Cynhaliwyd trafodaeth banel debyg gyda grŵp o oedolion a oedd hefyd yn eiriolwyr cryf dros wella a chynnwys. Buont yn trafod eu profiadau o fynediad, stigma a chydafiacheddau ym maes iechyd meddwl.
Trafodaethau panel yng nghynhadledd Cyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru
Elwodd y cynadleddwyr hefyd ar ddwy sesiwn a gyflwynwyd gan weithwyr proffesiynol o Ganada ac Awstralia sydd wedi cael llwyddiant wrth drawsnewid sut mae pobl yn cael mynediad at gymorth iechyd meddwl. Rhannodd cydweithwyr o Stepped Care Solutions yr hyn a ddysgwyd o weithredu’r model Stepped Care 2.0 sy’n hyrwyddo cymorth iechyd meddwl hyblyg a mynediad agored. Gwnaethant ennyn diddordeb y rhai a oedd yn bresennol trwy drafodaeth am sut y gall y model helpu i wireddu uchelgeisiau a nodir yn y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Pob Oed yng Nghymru. Bu cydweithwyr o SANE yn arddangos sut mae’n gweithredu gwasanaeth cymorth seicolegol digidol cyntaf Awstralia ar gyfer pobl ag anghenion iechyd meddwl cymhleth, yn cynnwys sut mae’r gwasanaeth wedi cael ei ddatblygu, ei ymgorffori a’i fonitro.
Roedd nifer o arddangoswyr o’r Ganolfan Iechyd Meddwl Genedlaethol, Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gweithrediaeth GIG Cymru, yn bresennol yn y gynhadledd a roddodd gyfle defnyddiol i ymgysylltu ag arweinwyr iechyd meddwl. Rhoddodd Gweithrediaeth GIG Cymru gyfle hefyd i bobl rannu arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth ym maes iechyd meddwl yng Nghymru, oedd yn canolbwyntio ar themâu dull system sy’n seiliedig ar adferiad.
Dywedodd 98% o’r bobl a oedd yn bresennol yn y gynhadledd yn Aberystwyth y byddent yn argymell digwyddiadau fel hyn yn y dyfodol i’w cydweithwyr. Mae'r data hwn yn seiliedig ar adborth gan 58 allan o 150 o bobl a oedd yn bresennol yn y gynhadledd wyneb yn wyneb, oedd yn cynrychioli'r holl grwpiau rhanddeiliaid.
Mae Gweithrediaeth GIG Cymru yn diolch yn ddiffuant i bawb a fu’n rhan o’r sesiynau cyfnewid gwybodaeth, y gynhadledd a’r gynhadledd loeren a gynhaliwyd yng Nghaerdydd – fel hwyluswyr a/neu gyfranogwyr. Mae'r ymrwymiad amser a'r egni y mae pobl wedi'i roi i fod yn bresennol a chyfrannu, a'r gonestrwydd y mae pobl wedi'i ddod i sgyrsiau, wedi creu awydd gwirioneddol am newid. Diolch yn arbennig i bawb a rannodd eu profiad bywyd a phrofiad byw. Gwnaeth eu profiadau helpu i ganolbwyntio sgyrsiau ar pam mae trawsnewid mor bwysig.
Ymrwymiad i fynediad agored a chymorth sy'n canolbwyntio ar adferiad
Dywedodd Ciara Rogers, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu a Niwroamrywiaeth: “Mae Gweithrediaeth GIG Cymru wedi ymrwymo i feithrin dull cydweithredol ac unedig o drawsnewid cymorth iechyd meddwl yng Nghymru. Mae gweithio cenedlaethol yn hanfodol i greu darlun dyfnach a mwy cywir o heriau system, yn ogystal â galluogi’r defnydd gorau o brofiad, arbenigedd ac ymchwil i ehangu arfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Rwy’n gyffrous iawn am yr egni a gynhyrchwyd o’r sesiynau cyfnewid gwybodaeth a’r gynhadledd, a’r awydd i fod yn feiddgar a gweithredu i ddarparu cymorth mynediad agored sy’n canolbwyntio ar adferiad i Gymru.”
Ciara Rogers yn siarad yng nghynhadledd Cyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru
Mae’r dysgu o'r sesiynau cyfnewid gwybodaeth, gweithdai’r gynhadledd a’r sesiynau cynllunio gweithredu wedi’i gyfuno fel rhan o'r gynhadledd. Bydd y gwaith hwn yn cael ei ddatblygu ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf. Bydd Gweithrediaeth GIG Cymru yn rhannu’r wybodaeth i gefnogi cydweithwyr ac uwch arweinwyr i feddwl yn wahanol am newid ar raddfa fawr. Mae wedi ymrwymo i ddatblygu Cynllun Cyflymu Mynediad Agored ar gyfer cymorth iechyd meddwl yng Nghymru.
Cryfhau arweinyddiaeth genedlaethol ar draws iechyd meddwl
Cyfarfu aelodau Bwrdd y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl cyn y gynhadledd i gymryd rhan mewn sesiwn datblygu arweinyddiaeth dan arweiniad Avanti Change. Roedd y sesiwn datblygu arweinyddiaeth yn canolbwyntio ar wella perthnasoedd â rhanddeiliaid, disgwyliadau, pwrpas a chanlyniadau.
Mae Bwrdd y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yn darparu mecanwaith cydweithredol cryf ar gyfer cyfeirio a chyflawni amcanion yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol a rennir. Mae Gweithrediaeth GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau iechyd arbennig, y trydydd sector a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y sector iechyd meddwl yn cael eu cynrychioli ar y fforwm.
Bu’r sesiwn yn werthfawr i sefydlu consensws pellach ar y cyd ynghylch rôl Bwrdd y Rhaglen o ran galluogi momentwm i gyflawni Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Pob Oed 2024-34, yn arbennig datganiad gweledigaeth pedwar: “Mae pobl yn cael gwasanaethau iechyd meddwl sy’n ddi-dor – yn canolbwyntio ar yr unigolyn, yn cael eu harwain gan angen ac yn cyfeirio at y cymorth cywir y tro cyntaf yn ddi-oed.”
Mae rhai o fanteision allweddol Bwrdd y Rhaglen a luniwyd ymhellach yn cynnwys:
Yn dilyn y sesiwn datblygu arweinyddiaeth bydd gwaith parhaus i werthuso sut y gall Bwrdd y Rhaglen barhau i wella ei werth a'i effaith wrth iddo barhau i aeddfedu.
Sesiwn datblygu arweinyddiaeth