Neidio i'r prif gynnwy

Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl – Diweddariad i Randdeiliaid

Mae Bwrdd Rhaglen y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yn darparu mecanwaith cydweithredol cryf ar gyfer cyfeirio a chyflawni amcanion yn unol â blaenoriaethau cenedlaethol a rennir. Mae Gweithrediaeth GIG Cymru (y Weithrediaeth), Llywodraeth Cymru, byrddau iechyd, awdurdodau iechyd arbennig, y trydydd sector a rhanddeiliaid allweddol eraill yn y sector iechyd meddwl yn cael eu cynrychioli ar y fforwm. Mae’r diweddariad hwn yn crynhoi’r gweithgareddau allweddol a drafodwyd ym Mwrdd y Rhaglen ym mis Ionawr 2025.

 

Y ddiweddaraf ar y rhaglen

Rhoddodd Ciara Rogers, Cyfarwyddwr Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, Anabledd Dysgu a Niwroamrywiaeth yng Ngweithrediaeth GIG Cymru ddiweddariad ar gynnydd y Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl ers y cyfarfod diwethaf. Mae sefyllfa’r rhaglen yn erbyn cynllun gwaith 2024-25 ar y trywydd iawn o hyd ac ni nodwyd yr un risg newydd.

Rhoddwyd diweddariad ar Fframwaith Cynllunio GIG Cymru 2025-28 a gyhoeddwyd yn ddiweddar a’r hyn y mae’n ei olygu i gydweithwyr o safbwynt iechyd meddwl. Mae mynediad at iechyd meddwl wedi’i amlygu fel un o bum maes blaenoriaeth strategol yn y fframwaith. Gofynnwyd i fyrddau iechyd Cymru greu Cynlluniau Tymor Canolig Integredig tair blynedd sy’n canolbwyntio ar y pum maes, yn ogystal â’r ystod ehangach o wasanaethau y mae angen i’r byrddau iechyd eu darparu. Rhannwyd gwybodaeth hefyd am y canllawiau technegol cysylltiedig a'r disgwyliadau. Bydd y Weithrediaeth yn rhoi adborth i Lywodraeth Cymru ar yr asesiad o’r Cynlluniau Tymor Canolig Integredig fel rhan o’r broses gyflwyno, adolygu a chymeradwyo. Mae'r Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl wedi ymrwymo i weithio gyda’r byrddau iechyd i gynnig arweiniad ar y cynlluniau cyn y dyddiad cau ffurfiol ar gyfer eu cyflwyno.

Tynnwyd sylw hefyd at fesurau Fframwaith Perfformiad GIG Cymru 2025-26 a’u trafod gyda chydweithwyr. Bydd cynllun cyflenwi’r Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yn cael ei gyflwyno i Fwrdd y Rhaglen yn y gwanwyn, yn ogystal â gwybodaeth am gylch gwaith y Weithrediaeth ar gyfer 2025.

 

Bregusrwydd gwasanaeth

Yn dilyn cais gan Ddirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, gofynnwyd i GIG Cymru adolygu’r system glinigol i nodi gwasanaethau y gellid eu hystyried yn fregus neu’n anghynaliadwy ar eu ffurfiau presennol. Mae'r Weithrediaeth yn arwain y gwaith hwn ar hyn o bryd ac mae'r Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yn goruchwylio'r agweddau iechyd meddwl.

Mae datblygu cyd-destun cenedlaethol gwasanaethau iechyd meddwl bregus yn hanfodol i nodi’r tebygrwydd a’r amrywiadau sy’n bodoli, gan gynnwys y ffactorau sy'n cyfrannu atynt. Mae’r Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl wedi cefnogi’r byrddau iechyd i gynnal hunanasesiadau i wella gwybodaeth a chyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella ledled Cymru.

Mae nifer o sbardunau cyfrannol wedi’u nodi, yn ogystal â chamau y mae’r byrddau iechyd yn eu cymryd yn rhagweithiol i liniaru bregusrwydd y gwasanaethau. Bydd y sylfaen wybodaeth gynyddol yn cael ei defnyddio i fwrw ymlaen â chamau gweithredu fel rhan o gynllun gwaith Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl 2025-26. Canmolodd cydweithwyr o’r byrddau iechyd y gwaith hwn a’i werth hyd yn hyn.

Therapïau ac ymyriadau seicolegol

Disgwylir y bydd Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol 2024-2034 wedi’i ymrwymo i gynnig therapïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth i bobl o bob oed yng Nghymru, ac y dylai cynnig therapïau seicolegol digidol fod yn agwedd allweddol ar hyn.

Yn 2024, diddymwyd y Pwyllgor Rheoli Therapïau Seicolegol Cenedlaethol a bu bwriad o ailsefydlu swyddogaeth debyg fel rhan o’r Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl yn y Weithrediaeth.

Ar hyn o bryd, mae adolygiad o’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer datblygu therapïau seicolegol diogel, effeithiol sy’n seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru ar gyfer pobl o bob oed ar y gweill. Gelwir y canllawiau cenedlaethol yn Matrics Cymru. Bydd safonau cenedlaethol ar ddarparu gwasanaethau yn cefnogi addysg, hyfforddiant a'r gweithlu – yn ogystal ag arwain rheoli capasiti.

Hysbyswyd Bwrdd y Rhaglen am enghreifftiau o nifer o gamau lliniaru yr oedd y byrddau iechyd eisoes yn eu cymryd i liniaru’r heriau, gan gynnwys mentrau’r gweithlu, defnyddio offer digidol, mecanweithiau cymorth a rheoli risgiau.

Fel rhan o’r Rhaglen Strategol ar gyfer Iechyd Meddwl, bydd cynllun gwaith clir ynghylch therapïau ac ymyriadau seicolegol yn cael ei ddatblygu’n gyflym. Bwriedir sefydlu Bwrdd Rhaglen Cenedlaethol ar gyfer Ymyriadau Seicolegol yn y gwanwyn.

 

Ystad iechyd meddwl GIG Cymru

Yn dilyn cais yng nghyfarfod diwethaf Bwrdd y Rhaglen yn dilyn y sgyrsiau a gafwyd am y Rhaglen Diogelwch Cleifion Iechyd Meddwl, roedd cydweithwyr o Lywodraeth Cymru yn bresennol i drafod y Gronfa Ystadau wedi'i Thargedu sydd wedi’i chynllunio i gefnogi gwelliannau i ystadau’r GIG. Trafododd Bwrdd y Rhaglen gyfleoedd i ddatblygu gwybodaeth genedlaethol am ystad iechyd meddwl GIG Cymru. Roedd yn cydnabod bod y rhan fwyaf o’r wybodaeth a oedd ar gael yn ymwneud â safleoedd cleifion mewnol. Cytunodd y cydweithwyr fod angen cynyddol i ddatblygu sut y caiff risgiau eu hasesu, a sut y blaenoriaethir buddsoddi yn yr ystad.

 

Cyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru 2025

Y gwanwyn hwn, bydd Cyfnewidfa Arweinyddiaeth Iechyd Meddwl Cymru yn dod ag arweinwyr ynghyd o bob rhan o system iechyd a gofal Cymru fel rhan o gyfres o weithgareddau sy’n cefnogi rhannu gwybodaeth ac arloesi.

Dyma fydd y digwyddiad cyntaf o’i fath yng Nghymru a bydd yn gyfle gwerthfawr i wneud y canlynol:

  • Dathlu cyfraniadau cydweithwyr sy’n cymryd camau breision i wella cymorth a gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant i’w poblogaeth.
  • Cysylltu â chydweithwyr ar draws y system a rhannu gwybodaeth a datblygu rhwydweithiau ar gyfer cymorth gan gymheiriaid.
  • Hyrwyddo gwerth profiad bywyd a chydgynhyrchu wrth gynllunio gwasanaethau.
  • Ysbrydoli, hysbysu a grymuso cyfranogwyr i ysgogi darpariaeth gwasanaethau iechyd meddwl di-dor.
  • Buddsoddi mewn datblygiad proffesiynol gydag amser wedi'i neilltuo i wella sgiliau a gwybodaeth am ymarfer ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Bydd cyfres o gyfnewidfaoedd gwybodaeth ar bynciau penodol yn digwydd ar-lein ac mewn gwahanol safleoedd ledled Cymru. Bydd pob cyfnewidfa gwybodaeth yn cael ei chynnal gan dîm neu sefydliad. Fel rhan o'r cyfnewidfaoedd gwybodaeth, bydd cyfranogwyr yn rhannu arbenigedd, gwybodaeth a mewnwelediadau rhwng unigolion a sefydliadau i feithrin mwy o gydweithio, dysgu ac arloesi.

Bydd mewnwelediadau o'r holl gyfnewidfaoedd gwybodaeth yn cael eu cyflwyno mewn cynhadledd ym mis Ebrill. Bydd y gynhadledd yn cynnwys cyfleoedd i rwydweithio, prif areithiau, gweithdai ac arddangosfa arloesi. Bydd sesiwn datblygu sgiliau arweinyddiaeth hefyd ar gyfer aelodau Bwrdd y Rhaglen. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Gweithrediaeth GIG Cymru.