Bydd rhwydwaith gweithredu newydd dan ofal Gweithrediaeth GIG Cymru yn cefnogi sefydliadau GIG Cymru i adnabod, dwysáu ac ymateb yn effeithiol i ddirywiad corfforol acíwt.
Mae Chris Hancock a Clare Dieppe wedi'u penodi'n Rheolwr Rhwydwaith ac Arweinydd Clinigol y Rhwydwaith Gweithredu Dirywiad Corfforol Acíwt (APDI) yn y drefn honno.
Bydd y Rhwydwaith Gweithredu Dirywiad Corfforol Acíwt (APDI) yn helpu byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yng Nghymru i roi systemau Sgorio Rhybudd Cynnar a modelau Call 4 Concern ar waith ar draws pob oedran, fel y cyfarwyddir yng Nghylchlythyrau Iechyd Cymru a gyhoeddwyd ym mis Medi 2024, Hydref 2024 a Chwefror 2025.
Wedi'i gynnal gan y Rhwydwaith Clinigol Strategol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Critigol, Trawma a Meddygaeth Frys, bydd y rhwydwaith gweithredu'n gweithio gyda sefydliadau tan fis Ionawr 2027 i leihau amrywiadau yn yr offer, y protocolau a'r gweithdrefnau sy'n ymwneud â dirywiad. Bydd hyn er mwyn cyflawni systemau ymateb cyflym dibynadwy i wella diogelwch cleifion.
Ar ôl cefnogi gweithredu sgoriau rhybudd cynnar safonedig ar draws pob ystod oedran ac ym mhob lleoliad perthnasol, bydd y rhwydwaith yn datblygu set ddata gyffredin ar gyfer adrodd ar effeithiolrwydd systemau diogelwch ymateb cyflym, ac yn ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd wrth lunio codau ar gyfer dull Cymru gyfan o weithredu Call 4 Concern.
Fel rhan o’r Bartneriaeth Gofal Diogel, bydd y rhwydwaith hefyd yn gweithio gyda thimau clinigol ledled Cymru i brofi ac ymgorffori gwelliannau system gyfan o ran uwchgyfeirio ac ymateb. Bydd yn archwilio pob cam o uwchgyfeirio o arsylwadau arferol i atgyfeirio gofal critigol ac ystyried terfynau therapi priodol.
Mae’r Grŵp Cyfeirio Clinigol ar gyfer y Rhwydwaith APDI wedi’i ffurfio a chynhelir ei gyfarfod cyntaf ym mis Ebrill 2025.