Neidio i'r prif gynnwy

Technoleg newydd chwyldroadol ar fin trawsnewid gofal strôc yng Nghymru

Bydd gofal strôc yng Nghymru yn cael ei drawsnewid drwy gomisiynu technoleg deallusrwydd artiffisial (AI) arloesol ledled y wlad, meddai arbenigwyr. 

Mae Brainomix 360 Stroke yn gasgliad o offer sy'n defnyddio’r algorithmau AI diweddaraf i gefnogi meddygon. 

Mae’n darparu dehongliad amser real o sganiau’r ymennydd i helpu i arwain penderfyniadau ar driniaeth a throsglwyddo ar gyfer cleifion strôc, gan helpu mwy o gleifion i gael y driniaeth gywir, yn y lle iawn, ar yr amser iawn.

Cymru yw’r rhan gyntaf o’r DU i gomisiynu Brainomix 360 yn genedlaethol ac mae’r platfform bellach yn gwbl fyw. 

Mae clinigwyr eisoes yn dechrau gweld gwelliant yng nghyfraddau thrombolysis (cyffur 'chwalu clotiau') a thrombectomi (tynnu clot gwaed o rydweli). 

Cyn mis Hydref 2023, pan ddechreuodd Brainomix 360 gael ei gyflwyno, roedd y gyfradd thrombectomi yn 1.8% ledled Cymru, ac roedd amryw wasgbwyntiau yn y llwybr clinigol. 

Mae’r gyfradd bellach wedi codi i 2.6% yn genedlaethol, ac mae safleoedd unigol a aeth yn fyw yn gynnar yn taro cyfraddau thrombectomi o 7% a chyfraddau thrombolysis o dros 20%. 

Mae clinigwyr yn rhagweld y bydd Brainomix 360 yn gwella ac yn llyfnhau'r llwybr ymhellach, a fydd yn ei dro yn arwain at gynnydd yn nifer y cleifion cymwys sy'n cael y triniaethau hyn.

Dywedodd Dr Shakeel Ahmad, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Strôc: 

“Mae platfform Brainomix 360 Stroke yn chwyldroadol ym maes gofal strôc. Trwy harneisio grym AI, mae'n darparu offeryn hynod werthfawr sy'n gwella sgil ac arbenigedd clinigwyr i wneud diagnosis a thrin cleifion strôc yn gyflym ac yn effeithiol. 

“Mae strôc yn argyfwng meddygol ac mae amser yn hanfodol wrth wneud diagnosis a phenderfynu pa driniaeth sydd orau i bob claf unigol. 
“Mae Brainomix 360 yn cynhyrchu gwybodaeth hanfodol yn gyflym o sganiau’r ymennydd syml ac mae’n darparu platfform diogel i glinigwyr rannu gwybodaeth, delweddau a dadansoddiadau.

“Mae hyn yn ein galluogi i wneud penderfyniadau cyflymach a mwy manwl gywir, a fydd yn ei dro yn gwella ansawdd y gofal a’r canlyniadau i gleifion strôc ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru.”

Yn ôl Dr Tom Hughes, Niwrolegydd Ymgynghorol yn Ysbyty Athrofaol Cymru: 

“Mae cyflwyno Brainomix i unedau strôc yng Nghymru yn ddatblygiad pwysig iawn yn y gwaith o reoli cleifion sydd wedi cael strôc o ganlyniad i rydweli fawr yn yr ymennydd yn cael ei rhwystro gan glot gwaed.  

“Mae’r cyflymder y mae’n dehongli delweddau o’r ymennydd ac o’r rhydwelïau sy’n darparu ei gyflenwad gwaed ac ansawdd y delweddau a welwn ar ein cyfrifiaduron neu ein ffonau symudol wedi gwneud argraff fawr arnaf fi fel clinigydd.   

“Dylai pob meddyg strôc yng Nghymru ddysgu sut mae defnyddio Brainomix 360 orau fel eu bod yn ymgyfarwyddo â’r ystod o swyddogaethau y mae’r feddalwedd yn ei chynnig, a’r sefyllfaoedd clinigol penodol y mae’n fwyaf tebygol o ddarparu’r wybodaeth ddefnyddiol ynddynt a fydd yn ein helpu i drin cleifion strôc yn gyflym.  

“Mae eisoes wedi cefnogi ein tîm strôc yng Nghaerdydd drwy gyflymu eu penderfyniadau clinigol i ddarparu triniaethau strôc brys gan gynnwys thrombolysis a thrombectomi mecanyddol. 

“Rwy’n edrych ymlaen at weld Brainomix 360 yn dod yn offeryn rydyn ni’n ei ddefnyddio fel mater o drefn mewn ymarfer clinigol.”

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol Mark Drakeford:

“Mae amser yn hollbwysig ym maes gofal strôc, felly rwyf wrth fy modd yn gweld y dechnoleg newydd hon yn mynd yn fyw. Mae’n helpu clinigwyr i werthuso difrifoldeb strôc a nodi triniaethau priodol yn gyflym.

“Dyma un o nifer o arloesiadau digidol cyffrous sy’n cael eu mabwysiadu yng Nghymru i wella gofal strôc a bydd yn gwella’r gyfradd thrombectomi a’r canlyniadau i gleifion strôc yn sylweddol.

“Hoffwn ddiolch i bawb sy’n rhan o’r gwaith am eu hymrwymiad a’u hangerdd wrth gyflwyno’r delweddu strôc AI hwn ledled Cymru."

Dywedodd Riaz Rahman, Cyfarwyddwr EMEA, Brainomix:

“Mae Brainomix yn falch iawn o fod wedi cael y cyfle hwn i ddefnyddio ein platfform arobryn Brainomix 360 Stroke ar lefel genedlaethol ar draws GIG Cymru, yn rhychwantu pymtheg o ganolfannau strôc. 

“Rydym wedi cydweithio’n agos â’r tîm arweinyddiaeth cenedlaethol i ddeall eu gofynion strategol ac wedi darparu datrysiad wedi’i deilwra a fydd yn trawsnewid llwybr clinigol strôc ar gyfer yr amcangyfrif o 7,400 o ddioddefwyr strôc y flwyddyn trwy wella diagnosis strôc a hwyluso penderfyniadau triniaeth a throsglwyddo cyflymach.” 

Mae buddion allweddol Brainomix 360 Stroke yn cynnwys:

Diagnosis Cyflym: Mae Brainomix 360 yn defnyddio algorithmau dadansoddi delweddu uwch, gan alluogi gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i asesu sganiau’r ymennydd yn gyflym ac yn gywir, gan hwyluso penderfyniadau cyflymach ar yr opsiynau triniaeth mwyaf priodol.

Llif Gwaith Effeithlon: Bydd integreiddio di-dor â systemau ysbytai presennol yn symleiddio llif gwaith gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan leihau amseroedd diagnosis a thriniaeth i gleifion strôc.

Canllawiau Triniaeth Bersonol: Mae Brainomix 360 yn darparu argymhellion triniaeth bersonol yn seiliedig ar broffil meddygol unigryw pob claf, gan sicrhau gofal prydlon, wedi'i deilwra. 

Gwelliannau yn Seiliedig ar Ddata: Mae galluoedd dadansoddeg data'r platfform yn cynnig mewnwelediad i dueddiadau a chanlyniadau gofal strôc, gan alluogi gweithwyr strôc proffesiynol i fireinio protocolau yn barhaus a darparu gwell gofal.

Bu Bwrdd y Rhaglen Strôc Genedlaethol yn gweithio gyda Gweithrediaeth GIG Cymru i gaffael Brainomix 360 ar gyfer y GIG ar sail Cymru gyfan. 

Mae'r dechnoleg eisoes wedi cael effaith sylweddol mewn cyfleusterau gofal iechyd ledled y byd, ac mae’r rhai cyntaf i’w mabwysiadu yn gweld gostyngiad yn yr amserau o ddrws i driniaeth, canlyniadau gwell i gleifion, a mwy o effeithlonrwydd gweithredol. 

Dangosodd canlyniadau’r gwerthusiad arfaethedig mwyaf o ddelweddu AI strôc, a oedd yn cynnwys mwy na 80,000 o gleifion strôc ar draws 26 o ysbytai yn Lloegr, fod gweithredu Brainomix 360 Stroke wedi arwain at gynnydd ychwanegol o 50% yn nifer y cleifion sy’n cael thrombectomi mecanyddol.

DIWEDD