Neidio i'r prif gynnwy

Rhwydwaith Profion Pwynt Gofal

Arolwg

Mae Grŵp Strategaeth Profion Pwynt Gofal GIG Cymru yn dwyn ynghyd reolwyr a chydlynwyr Profion Pwynt Gofal y bwrdd iechyd ac arweinwyr clinigol ar gyfer Profion Pwynt Gofal, arbenigwyr mewn delweddu a meddygaeth ffisiolegol gan gynnwys cardioleg a meddygaeth anadlol, ymchwilwyr prifysgol, rheolwyr caffael y GIG ac arweinwyr gwybodeg o Wasanaeth Iechyd a Gofal Digidol Cymru. Cynrychiolir pob un o'r saith bwrdd iechyd ledled Cymru yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre. 

Mae Grŵp Cyflawni Profion Pwynt Gofal Cymru Gyfan yn cynnwys rheolwyr a chydlynwyr Profion Pwynt Gofal o bob rhan o Gymru er mwyn trafod gweithredu rhaglenni Profion Pwynt Gofal newydd, rhannu arferion gorau a rhoi adborth ar faterion ansawdd a diogelwch. Derbynnir mewnbwn hefyd gan gaffael a gwybodeg.

I fyfyrio ar Rwydwaith POCT Cymru a’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol, darllenwch y cyflwyniad a’r crynodeb (yn saesneg) hwn.

Gweithgareddau'r rhwydwaith

  • Goruchwylio'r gwaith o lywodraethu Profion Pwynt Gofal yng Nghymru
  • Goruchwylio Strategaeth Cysylltedd TG Profion Pwynt Gofal Cymru Gyfan (WPoCT)
  • Hwyluso caffael a fframweithiau
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â Safonau Achredu a Chanllawiau NICE 
  • Sicrhau cydymffurfiaeth â chanllawiau cenedlaethol a lleol ar gyfer Profion Pwynt Gofal
  • Goruchwylio'r holl ofynion o ran hyfforddiant ac asesu cymhwysedd ar gyfer Profion Pwynt Gofal
  • Archwilio, gwerthuso a monitro effeithiolrwydd clinigol
  • Sicrhau profion diogel a sicr o ansawdd i gleifion

Llywodraethu

Mae gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru ei strwythur sefydliadol a llywodraethu Profion Pwynt Gofal ei hun.

Yn y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, mae timau Profion Pwynt Gofal penodedig yn gyfrifol am oruchwylio'r broses o gaffael, gweithredu a monitro gwasanaethau Profion Pwynt Gofal i safonau lleol a chenedlaethol.

Mae rheolwyr neu gydlynwyr Profion Pwynt Gofal ac arweinwyr clinigol Profion Pwynt Gofal yn cyfarfod â rhanddeiliaid Profion Pwynt Gofal lleol ym mhwyllgorau Profion Pwynt Gofal y bwrdd iechyd i ddatblygu polisïau, cymeradwyo achosion busnes newydd, trafod adnoddau ac uwchgyfeirio pryderon diogelwch.