Mae’r gwasanaethau patholeg ar draws Cymru yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaeth sydd â ffocws ar gleifion a dan arweiniad clinigol, gyda chymorth y rheolwyr, gan alluogi’r gofal, y llwybrau a’r canlyniadau gorau i gleifion. Mae gweithlu cydnerth, llawn cymhelliant a werthfawrogir yn cyrraedd rhagoriaeth weithredol drwy hyfforddiant ac ymgysylltiad staff ar bob lefel.
Mae’r gwasanaeth patholeg yn safonedig, yn gynaliadwy ac yn ddoeth. Caiff pobl, prosesau a thechnoleg eu hintegreiddio i ddarparu gwasanaethau diogel, sefydlog a diwastraff ar lefel y byrddau iechyd, yn rhanbarthol neu’n genedlaethol. Gan fod ansawdd a diogelwch cleifion yn greiddiol iddo, mae’n hawdd iddo gael ei achredu a’i ddilysu.
Caiff y gwasanaeth patholeg ei gefnogi gan brosesau a systemau o’r dechrau i’r diwedd gan gynnwys ceisiadau electronig am brofion, gwasanaethau system rheoli gwybodaeth labordai (LIMS), adroddiadau ar ganlyniadau, rhybuddion a hysbysiadau, wedi’u hategu gan wasanaethau integreiddio a phlatfform technegol agored. Mae’r trefniadau rheoli galw yn sicrhau bod cyfiawnhad clinigol dros wneud ceisiadau am brofion. Mae’r canlyniadau ar gael yn ddiogel ar draws Cymru i bob clinigydd mewn unrhyw leoliad.
Mae un gwasanaeth LIMS cenedlaethol, safonedig a dilys ar gyfer yr holl ddisgyblaethau yn darparu system hynod wydn, diogel a hawdd ei defnyddio sy’n ategu’n ddi-dor wasanaethau gweithredol, safonedig Cymru gyfan. Mae deallusrwydd busnes yn darparu data cymaradwy i reoli a monitro perfformiad y gwasanaeth fel sylfaen ar gyfer gwella’n barhaus.
Caiff y gwasanaeth Patholeg ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol, bydd yn gallu esblygu ac ymateb i ddatblygiadau’r dyfodol mewn arferion a phatrymau gweithio, technoleg newydd ac arloesol.