Neidio i'r prif gynnwy

Canisc

Mae'r system Canisc bresennol yn gael ei defnyddio'n helaeth ledled Cymru gan yr holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, hosbisau a sefydliadau eraill sy'n ymwneud â darparu gofal canser. Mae’r system yn gweithredu mewn tair prif ffordd; cofnod clinigol o ofal canser (gan gynnwys cofnod o ganlyniadau cyfarfodydd amlddisgyblaethol), System Gweinyddu Cleifion (PAS) ar gyfer Canolfan Ganser Felindre, ac mae'n gweithredu fel offeryn ar gyfer darparu data ar weithgarwch a gwybodaeth fusnes cysylltiedig â chanser (Gofal Cleifion a Dderbynnir, Fframwaith Gwasanaeth a Chyllid (SaFF) ac Adroddiadau Amseroedd Aros) ac adroddiadau ariannol. Yn bwysig, Canisc hefyd yw'r brif ffynhonnell ddata ar gyfer ymchwil a datblygu, setiau data archwilio clinigol cenedlaethol a datganiadau canser cenedlaethol (drwy Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru (WCISU), a Cancer Research UK).

  • Cyfarfodydd Amlddisgyblaethol Canser Byrddau Iechyd a Chyfarfodydd Amlddisgyblaethol Gofal Lliniarol Arbennig
  • Timau Gwasanaethau Canser Byrddau Iechyd
  • Gwasanaethau Gofal Lliniarol Arbenigol (SPC) Cymru
  • Gwasanaethau Canser Gogledd Cymru
  • Canolfan Ganser Felindre (De-ddwyrain Cymru)
  • Canolfan Ganser De-orllewin Cymru
  • Gwasanaethau Sgrinio Cymru (gwasanaeth y coluddyn, y fron, serfigol a cholposgopi)
  • Mae sefydliadau eraill (defnyddwyr gwybodaeth eilaidd) e.e. Uned Gwybodaeth ac Arolygaeth Canser Cymru, Iechyd y Cyhoedd, yn defnyddio data canser clinigol ar gyfer cofrestru canser yng Nghymru a Banc Canser Cymru.
  • Adroddiadau Archwilio Clinigol Cenedlaethol a phrosesau archwilio a llywodraethu clinigol eraill ar lefelau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol

 

Mae Canisc yn cael ei diddymu’n raddol oherwydd oedran ei meddalwedd ac nid yw'n gallu bod yn hyblyg mwyach i ddiwallu anghenion y gwasanaeth ac felly cleifion.

Er bod Canisc yn caniatáu i amryw o sefydliadau gofnodi'r wybodaeth am ddiagnosis, triniaeth a gofal dilynol claf, dim ond tua 2,000 o weithwyr gofal iechyd proffesiynol awdurdodedig sy'n gallu cael mynediad iddi. Mae'n rhaglen annibynnol a dim ond drwy Canisc y gellir gweld y wybodaeth am ofal clinigol ynddi. Mae cleifion yn derbyn gofal mewn llawer o leoliadau y tu allan i'r canolfannau canser ac, yn aml, nid yw'r wybodaeth glinigol am eu gofal canser ar gael i weithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n trin cleifion am broblemau eraill sy'n ymwneud ag iechyd mewn lleoliadau gofal eraill.

Mae angen dybryd am system fwy diogel, cynaliadwy a hygyrch sy'n darparu gwybodaeth am gleifion sydd â chanser ledled Cymru, i'r rhai sy'n gofalu amdanynt, pryd a ble mae ei hangen, ym mha leoliad gofal bynnag.

Yr Ateb Gwybodeg Canser newydd yw un o'r prif alluogwyr i sicrhau gwelliannau strategol mewn gwybodeg canser er mwyn hwyluso'r gwaith o ddatblygu a gweithredu safoni llwybrau clinigol a thrawsnewid gwasanaethau. Bydd y gwaith hwn yn cyfrannu at leihau amrywiadau clinigol diangen a gwella canlyniadau.

Mae'r Rhaglen Gwybodeg Canser wedi'i sefydlu i ddisodli swyddogaethau Canisc ar draws yr holl fyrddau ac ymddiriedolaethau iechyd yng Nghymru. Bydd nodweddion newydd yn cael eu datblygu mewn rhyngwynebau defnyddwyr e.e. WPAS a Phorth Clinigol Cymru (WCP) i gymryd lle swyddogaethau Canisc, i gefnogi pob cam o'r llwybr canser a datblygu cofnod unigol y claf. Bydd gwybodaeth glinigol sy'n ofynnol ar gyfer gofalu am gleifion canser ar gael i glinigwyr ym mha sefydliad gofal iechyd bynnag y maent yn darparu gofal.

Mae'r Rhaglen Gwybodeg Canser wedi newid ffocws ei hymdrechion yn ddiweddar ac wedi sefydlu dull gweithredu graddol, gyda'r cyfnod cyflymu cychwynnol yn blaenoriaethu deuddeg ffrwd waith.  Y prif amcan yw disodli'r system Canisc yn gyflym, lliniaru risgiau i ddarpariaeth gwasanaethau a darparu parhad busnes ar gyfer gofal cleifion.

 

Amcanion y cyfnod cyflymu (Medi 2021):

  • Lliniaru risgiau i ddarpariaeth gwasanaethau a pharhad busnes o systemau rhagflaenol (Canisc)
  • Gwella amlygrwydd gwybodaeth glinigol ar gyfer gofal canser ledled Cymru
  • Atebion sefydlog sy’n gallu tyfu yn unol â’r angen, gyda seilwaith diogel yn sail iddynt
  • Cyfathrebu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol 
  • Hwyluso newid busnes, ymgysylltu â defnyddwyr a hyfforddiant
  • Sicrwydd a chymeradwyaeth glinigol 

Ar ôl i'r cyfnod cyflymu cychwynnol gael ei gyflawni, bydd y ffocws wedyn ar amcanion pellach yr Ateb Gwybodeg Canser yn y camau ôl-gyflymu.

Amcanion ôl-gyflymu:

  • Gofynion nas bodlonwyd yn y cyfnod cyflymu
  • Bodloni gofynion gwasanaethau yn y dyfodol a chynyddu cyfleoedd i gysylltu systemau ledled Cymru 
  • Cefnogi gwell archwilio, gwybodaeth am ganser, darparu gwasanaethau a gwella ansawdd  
  • Cefnogi gwella ansawdd ar gyfer modelu ac ailddylunio gwasanaethau
  • Angen nodweddion newydd i gefnogi llwybr cleifion ar gyfer gwasanaethau canser a gofal lliniarol

 

Mae gan bob ffrwd waith reolwyr prosiect ei hun i gydgysylltu'r gwaith cynllunio a'r amserlenni, a bydd yn cynnwys elfennau o gyfathrebu, hwyluso newid busnes a hyfforddiant / E-ddysgu. Mae ymgysylltu â rhanddeiliaid yn hanfodol ar gyfer y ffrydiau gwaith a bydd gan bob un arweinyddiaeth glinigol a bydd yn ceisio mewnbwn gan arbenigwyr pwnc, ymgysylltiad clinigol Grwpiau Safle Canser (CSG) a gwybodegwyr iechyd. Y deuddeg ffrwd waith â blaenoriaeth yw:

  • Data ac Adrodd
  • Cleifion mewnol
  • Cleifion allanol
  • Adrodd Canlyniadau Cyfarfodydd Amlddisgyblaethol
  • Rhaglenni/Swyddogaethau Gofal Lliniarol
  • Data Triniaeth Radiotherapi
  • Ceisiadau am Driniaeth IRMER Radiotherapi
  • Data Triniaeth SACT
  • Sgrinio a Cholposgopi
  • System Gweinyddu Cleifion Cymru (WPAS) *
  • Adweithiau Niweidiol a Rhybuddion
  • Lanlwytho ymchwiliadau

* Lle mae angen swyddogaethau newydd mewn systemau gweinyddu cleifion, bydd ymgysylltu'n digwydd gyda sefydliadau nad ydynt yn defnyddio WPAS.