Neidio i'r prif gynnwy

Mathau o Ganser y Pancreas

Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth a chanllawiau ar fathau o ganser y pancreas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. 
Mae gwybodaeth ar gyfer cleifion ar gael ar ein hwb cleifion.

 

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am CSG Gastroberfeddol Uwch, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk

Datblygwyd y Llwybr Cenedlaethol Gorau ar gyfer Canser y Pancreas ar y cyd â'r CSG Gastroberfeddol Uwch i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r Llwybr Canser Sengl (SCP) yng Nghymru.

Y Llwybr Cenedlaethol Gorau ar gyfer Canser y Pancreatig

Cynhelir cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol HPB bob dydd Mawrth am 8am.

Cyn atgyfeirio claf i Dîm Amlddisgyblaethol Canser y Pancreas darllenwch y llythyr hwn gan y tîm .

O ystyried natur ranbarthol y gwasanaeth ac er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion unigol, bydd angen eich cydweithrediad ar gyfer y broses atgyfeirio ac wrth gyflwyno gwybodaeth i'ch adran gwasanaethau canser leol er mwyn cofnodi'r wybodaeth yn Canisc. 

Ffurflen atgyfeirio Tîm Amlddisgyblaethol HPB.

Enw

Rôl

Dr Sarah Gwynne

Oncolegydd Clinigol, Clinigydd Arweiniol a Chadeirydd y Tîm Amlddisgyblaethol 

Yr Athro Bilal Al Sarireh Llawfeddyg Pancreatig Ymgynghorol, Arweinydd y Tîm Amlddisgyblaethol Hepato-Pancreato-Biliary
Mr Amir Kambal Llawfeddyg Pancreatig Ymgynghorol
Mr Guy Shingler Llawfeddyg Pancreatig Ymgynghorol
Dr Emma Christopher Oncolegydd Ymgynghorol
Dr Daniel Housa Histopatholegydd Ymgynghorol
Dr Danny Parker Histopatholegydd Ymgynghorol
Yr Athro Paul Griffiths Histopatholegydd Ymgynghorol
Dr Tawfik Elazzabi Histopatholegydd Ymgynghorol
Dr Peter Chowdhury Radiolegydd Ymgynghorol
Dr Derrian Markham Radiolegydd Ymgynghorol
Dr Tudor Young     Radiolegydd Ymgynghorol
Dr Chinlye Ch'ng Gastroenterolegydd Ymgynghorol
Dr Mesbah Rahman Gastroenterolegydd Ymgynghorol
Dr Umakant Dave Gastroenterolegydd Ymgynghorol
Dr Mike Gough Anaesthetydd Ymgynghorol
Dr Stuart Jenkins Anaesthetydd Ymgynghorol
Dr David Watkins Anaesthetydd Ymgynghorol
Kathy Dykes Nyrs Arbenigol Pancreatico-biliary
Kellie Williams  Nyrs Arbenigol Pancreatico-biliary
Julie Johns

Nyrs Oncoleg

Lois Smith Cydgysylltydd y Tîm Amlddisgyblaethol 

 

Datblygwyd manyleb gwasanaeth model llawdriniaeth Hepato-Pancreatig-Bustlaidd gan grŵp gorchwyl a gorffen, sy’n cynnwys cynrychiolaeth glinigol o'r canolfannau llawfeddygol ledled Cymru, yn ogystal â rhanddeiliaid allweddol eraill sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaethau hyn.

Lawrlwythwch y manyleb gwasanaeth.

Nod y fanyleb gwasanaeth yw diffinio'r gofynion hanfodol a safon y gofal y mae'n ofynnol i wasanaethau eu bodloni er mwyn darparu gwasanaethau llawdriniaethau HPB i bobl sy'n byw yng Nghymru. 

Roedd y gwaith datblygu yn cynnwys cyfnod ymgynghori â rhanddeiliaid allweddol. Cafodd y fanyleb ei chymeradwyo ym mis Mai 2021 gan y Grŵp Gweithredol Cydweithredol, ac fe’i cymeradwyodd i gael ei mabwysiadu'n ffurfiol gan fyrddau iechyd unigol Cymru.

Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rhanddeiliaid clinigol a rhanddeiliaid eraill am gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r fanyleb gwasanaeth hon.

Mae elfen o'r gwasanaeth llawdriniaethau Hepato-Pancreatig-Bustlaidd yng Nghymru, sef llawdriniaethau canser hepatobustlaidd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, yn cael ei chomisiynu fel gwasanaeth arbenigol gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSSC).

Diweddarwyd y fanyleb ar gyfer llawdriniaethau canser hepatobustlaidd yn ddiweddar mewn proses ar y cyd ochr yn ochr â datblygu manyleb gwasanaeth model llawdriniaethau Hepato-Pancreatig-Bustlaidd ehangach.  

Mae manyleb llawdriniaethau canser hepatobustlaidd ar gael ar wefan WHSSC.