Neidio i'r prif gynnwy

Sarcoma

Arweinydd Clinigol CSG:  Mr Thomas Bragg, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Dirprwy: Ms Jo Gronow, Ymddiriedolaeth GIG Felindre

 

Mae gwybodaeth ar gyfer cleifion ar gael ar ein hwb cleifion. 

Grŵp prin ac amrywiol o ganserau yw Sarcomas a chredir bod ganddynt darddiad embryolegol cyffredin. Maent yn deillio o gelloedd sy'n ffurfio'r strwythur meinweoedd cysylltiol, gan gynnwys esgyrn, cartilag, cyhyrau, pibellau gwaed, nerfau a braster (pibellau gwaed, byrsa, ffasgia, gewynnau, cyhyrau, nerfau ymylol, nerfau a ganglia sympathetig a pharasympathetig, synofia, tendon ac ati), sy'n digwydd bron yn unrhyw le yn y corff. Yn fras, gellir rhannu sarcomas yn rhai esgyrn a meinwe meddal.
 
Dim ond sarcomas meinwe meddal sy'n cael eu rheoli gan Rwydwaith Canser Cymru, ac mae gwybodaeth ar y wefan hon yn berthnasol i  sarcoma meinwe meddal yn unig.

Dylid atgyfeirio achosion o sarcomas esgyrn yn uniongyrchol i'r uned sarcoma yn Ysbyty Orthopedig Brenhinol Birmingham.

  • Nodir bod tua un y cant o bob neoplasm malaen yn sarcomas meinwe meddal
  • Mae tiwmorau meinwe meddal anfalaen o leiaf ganwaith yn fwy cyffredin na thiwmorau malaen
  • Gall sarcomas meinwe meddal ddigwydd unrhyw le sy'n cynnwys meinwe cysylltiol, ac mae arwyddion a symptomau'n amrywio'n fawr gan ddibynnu ar y man anatomegol. Mae opsiynau triniaeth a phrognosis yn amrywio'n fawr hefyd.

Gweler y Canllawiau Clinigol am wybodaeth benodol, e.e. graddfeydd a bongorffarwynebol, retropertioniwm, ymysgaroedd, pen a gwddf, ffactorau risg a chanllawiau ar gyfer atgyfeiriadau brys.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am CSG Sarcoma, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk

Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i ddatblygu'r llwybr cenedlaethol gorau ar gyfer Sarcoma.

Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu gymryd rhan yn y gwaith, e-bostiwch WCN.CancerSiteGroups@wales.nhs.uk

Sut mae modd adnabod sarcoma?

Yn aml, mae sarcoma yn edrych fel lwmp sy'n gallu bod yn boenus neu'n ddi-boen.

Pa symptomau sy'n gysylltiedig â nhw?

Mae arwyddion baner goch ar gyfer sarcomata yn cynnwys:

  • màs sy'n tyfu
  • mwy na 5cm
  • poenus 
  • yn ddwfn hyd at y ffasgia.
Sut dylwn i ymchwilio i friw posibl?

Rydym yn cynnal clinig diagnostig dan arweiniad nyrs sarcoma arbenigol ar gyfer achosion posibl o sarcoma.

Hefyd, gallwch drefnu ymchwiliad uwchsain a biopsi gan radiolegydd sarcoma, cyn gwneud atgyfeiriad i'r Tîm Amlddisgyblaethol Sarcoma.
 

Mae pob claf yn cael ei atgyfeirio drwy ein system e-bost atgyfeirio electronig.

Rydym yn cynnal cyfarfodydd Tîm Amlddisgyblaethol bob dydd Mercher, a bydd atgyfeiriadau a gyflwynir cyn hanner dydd bob dydd Llun yn cael eu trafod yn ystod yr un wythnos.
 
Ni ellir derbyn atgyfeiriadau os nad ydynt wedi'u hanfon o gyfrif e-bost y GIG. Cwblhewch yr holl feysydd perthnasol.

Ffurflen atgyfeirio Sarcoma De Cymru

Ffurflen atgyfeirio Sarcoma Gogledd Cymru

Uned Sarcoma Abdomenol ac Ôl-beritoneol Canolbarth Lloegr

Ysbyty Orthopedig Brenhinol, Birmingham

 


 

 

Aelod Craidd y Tîm Amlddisgyblaethol

Aelod a Enwir

Lleoliad

Arweinydd Clinigol y Tîm Amlddisgyblaethol

Mr Thomas Bragg

 

Ysbyty Treforys

 

Cydgysylltydd

Ms Victoria Shaw

 

Ysbyty Singleton

 

Llawfeddygon

Mr Thomas Bragg 

Mr James Warbrick-Smith

(o fis Chwefror 2021)

 

Ysbyty Treforys 

Ysbyty Treforys

 

Patholegwyr

Dr Maurizio Brotto 

Dr Stefan Dojcinov

 

Ysbyty Singleton 

Ysbyty Treforys

 

Radiolegwyr

Dr Suresh Dalavaye 

Dr Tishi Ninan 

Dr Aamer Iqbal 

Dr Rafal Colta 

Dr Moni Sah 

Dr Huw Edwards

 

Ysbyty Treforys 

Ysbyty Treforys 

Ysbyty Treforys 

Ysbyty Treforys 

Ysbyty Treforys 

Ysbyty Treforys

Oncolegwyr

Dr Kath Rowley 

Dr Owen Tilsley 

Swydd wag

Ysbyty Singleton 

Canolfan Ganser Felindre 

Ysbyty Singleton

Nyrsys Arbenigol

Ms Jo Gronow 

Ms Hannah Morgan 

Swydd wag (wedi'i llenwi) 

Ms Jo Vass

 

Canolfan Ganser Felindre 

Ysbyty Treforys 

Ysbyty Singleton 

Ysbyty Treforys

Gweithiwr Cymorth Sarcoma

Ms Lucy Whiddett 

Ms Lara Salmon

 

Ysbyty Treforys 

Canolfan Ganser Felindre